Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

Y WAENFAWR.[1]

Sylwa Morgan Jones yn y Drysorfa am 1848, mai "tua chan mlynedd yn ol y byddai Mr. Howel Harris yn myned drwy'r wiad hon, a'r man y byddai'n pregethu ynddo oedd Hafod y rhug, a dyma'r lle y ceir hanes fod pregethu ynddo gyntaf yn y gymdogaeth hon." Yn 1741 y daeth Howel Harris i'r sir am y tro cyntaf. Y mae hanes yr ymweliad hwnnw, hyd y mae ar gael mewn argraff, yn myned i ddangos ddarfod iddo gyfyngu ei hunan y pryd hwnnw i'r pen arall i'r sir. Daeth i'r sir drachefn oddeutu'r flwyddyn a nodir gan Morgan Jones, a'r pryd hwnnw aeth drwy'r Waenfawr ar ei ffordd i Fon. Gwnawd cais at olygydd papurau Howel Harris, y Parch. D. E. Jenkins Dinbych, am oleu ar ymweliad Howel Harris a'r ardal, a dyma fel yr ysgrifenna: "Nis gallaf ddod o byd i ddim ynghylch y Waenfawr hyd 1749, pan, dan y dyddiad, Dydd Gwener, Mehefin 15, y croesodd Harris drosodd o Lanberis, by way [of] Glyndowr's Tower by Rocks Mountains &c amazing!! O wt. am I to be sent this way to publish ye Name of Jesus—many heard now as did not before. I went to ye Top of ye Tower & prayd wth. 2 Brethren wth. me on ye Top of it & came to Weinvawr where I discoursd att 9 on Look unto me all ye ends of ye Earth & I was led so as I was not att all This some time before to shew ye Life of faith and to search ye Legal spirit & had authority to cut & lash selfrighteousness &c.' Ac yna dan 'Wein vawr Caernarvonsh.: Saturday 16. Last night I sat up till broad day in ye Private Society shewg. home ye Life of faith they havg. become very dead by ye weakness of Their faith & Their Legality. I home in Publick & private aftr. we have believd to stand fast in gospel Liberty,' ac felly ymlaen. Y mae'n eithaf eglur oddiwrth hyn fod naill ai Harris ei hun wedi bod yn y lle o'r blaen, neu fod rhywun arall dano ef wedi sefydlu cymdeithas neilltuol yn y lle." Ymesgusoda Mr. Jenkins am fethu ganddo ddwyn y pwnc olaf yna i eglurder, oblegid anhawsterau y llawysgrif. Fe welir fod

  1. Erthyglau y Parch. Francis Jones (Abergele) yn y Drysorfa, 1883, s. 175, 220. Atgofion John Owen Cae ystil (Pant), a ysgrifennwyd i lawr gan Francis Jones. Y Waenfawr ddeugain mlynedd yn ol," gan Richard Jones, Traethodydd, 1895, t. 102. "Waenfawr, yn grefyddol, yr 50 mlynedd diweddaf" (llawysgrif, 1907), gan Mr. R. O. Jones. Atgofion M. Jones, Drysorfa, 1848, t. 221. Ysgriflyfrau Dafydd Thomas a Pierce Williams. Cyfrifon eglwysig, 1818 20. Ymddiddanion. Nodiadau y Mri. R. O. Jones a J. W. Thomas,