Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

deallai Morgan Jones ef, ddarfod i Harris bregethu yno fwy nag unwaith. Dywedid, hefyd, mai nid ychydig a ddioddefodd Evan Dafydd oddiwrth ei wraig oblegid cynnal pregethu yn y tŷ. Ond gan mai yno y cynhelid hynny o bregethu a geid yn yr ardal, tebyg wedi'r cwbl mai gwaeth ei chyfarthiad na'i brathiad.

Wedi marw Evan Dafydd, cynhelid pregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd, lle mwy canolog, ac heb fod nepell oddiwrth y capel a adeiladwyd wedi hynny. Dywed Dafydd Thomas na chlywodd efe fod neb yn trigiannu yn Nhŷ ucha'r ffordd yr holl amser y bu'r Methodistiaid yn cynnal gwasanaeth yno, sef ystod 1750-84. Tua'r un amser, neu ychydig cynt, ebe Mr. Francis Jones, y symudodd Thomas Griffith yma, efallai mai ar ei briodas â merch Cae'r ysgubor, tyddyn gerllaw. Daeth yma o Bandŷ Glynllifon, gwehydd wrth ei alwedigaeth, ac yn adnabyddus fel gwr ieuanc crefyddol. Efe a ddaeth ar unwaith yn nawdd i'r achos bychan. Elai oddiamgylch hefyd fel cynghorwr ar brydiau, er na wyddys pa bryd y dechreuodd ar hynny o waith. Yr oedd gan Robert Jones feddwl uchel ohono. "Thomas Griffith (tad y godidog fardd, Dafydd Thomas) oedd wr o gyneddfau cryfion, craff ei olwg ar y wir athrawiaeth." Er mwyn dofi cynddaredd yr erlidwyr elai yn fwy neu lai cyson i wasanaeth y llan, fel y rhoir ar ddeall yn y Methodistiaeth. Eithr nid ydoedd hynny chwaith ond arfer y Methodistiaid cyntefig am yn hir o amser wedi hynny. Byddai rhai o'i ddyledwyr yn cynnyg tâl iddo wrth ddyfod allan o'r llan, gan wybod am ei ddull manwl, ac os gwrthodai ei dderbyn, gelwid am dystion o hynny, er mwyn peidio â thalu rhagllaw. Awgrymir, braidd, yn y dywediad ddarfod iddo lacio yn ei fanylrwydd yn wyneb y brofedigaeth honno. Fel y nesae Richard Tibbot at y Waenfawr, pan ar ei hynt drwy'r wlad gyda phregethu, fe ddechreuai ganu, ac wrth ei glywed, yn llawenydd ei galon, fe daflai Thomas Griffith o'r neilltu offerynau ei gelfyddyd, gyda'r geiriau, "Dyma Tibbot, yr wy'n tybied." Edrydd Mr. Francis Jones "fyfyrdod "Sion Lleyn ar ei gladdedigaeth:

Ni bu ddoeth neb yn ei ddydd
Graffach na Thomas Gruffydd;
Ei ofal oedd ddyfal ddwys,
Mawr wiwglwm, am yr eglwys.

Y mae gan Dafydd Thomas fymryn o stori am Richard Tibbot. Yr oedd taid Dafydd Thomas yn llencyn yn helpio'r seiri pan