gan y doluriau oedd arno, er y byddai ef yn ystod y bregeth mewn cwbl angof o unrhyw anesmwythyd.
Fe gyfeiriwyd at erlidiau. Erlidiwr go ffyrnig oedd William Williams Llwynbedw, tyddyn gerllaw Tŷ-ucha'r-ffordd. Erlidiai ef o fewn ei dŷ, gan fod yn rhwystr i'w wraig ddilyn y gwasanaeth, cystal ag oddiallan. Ar y ffordd ryw ddiwrnod i farchnad Caernarvon, wrth Penycefn, aeth i ymladd âg un o'i gymdogion. Ac fel yr oeddynt yn ymladd, ac yn ymosod yn ffyrnig ar ei gilydd, wele wr dieithr yn dod heibio, yn waed ac archollion. Troes atynt, a rhoes arnynt feddwl am dri gair,—angeu, barn a thragwyddoldeb, ac ymaith âg ef. Ebe'r naill ymladdwr wrth y llall, "Pwy oedd y gwalch yna oedd yn dweyd y fath eiriau? Y mae ol ymladd arno yntau ei hun." Pregethwr wedi ei faeddu yn y Bontnewydd ydoedd y gwr, ac ar ei ffordd i Lanberis. Yn ol adroddiad arall, John Thomas Llanberis ydoedd y pregethwr, ar ei ffordd adref o Rostryfan, yn dianc oddiar erlidwyr yno. Eithr fe ddilynir adroddiad Morgan Jones o'r stori yma. Gwalch neu pa beth a'u dywedodd, fe lynodd y tri gair yng nghydwybod William Williams. Fe ddaeth o'r dref heb ei neges, yn sobr, ac nid yn feddw fel arfer. Wedi dod i'r tŷ, gofynnodd i'r wraig yn y man, onid oedd hi yn myned i'r seiat y noswaith honno? Synnu a wnaeth arni wrth yr ymholiad anarferol. Ond wele'r ddau, o fewn ennyd fechan, yn cychwyn i'r seiat gyda'i gilydd. Ac felly y parhausant i wneuthur ddyddiau eu cyd-bererindod.
Dro arall yn Nhŷ-ucha'r-ffordd, ar ganol pregeth, wele wr i mewn, gan orchymyn y pregethwr yn hŷf i dewi. Elai yntau ymlaen gyda'i bregeth heb gymeryd arno ddim. Ymgynddeiriogai yr aflonyddwr wrth ddull hamddenol y pregethwr, ac elai yn hyfach hyfach. Gorfu i'r pregethwr, ni wyddys mo'i enw, ddod i lawr oddiar yr hen goffr y safai arni. Aeth at yr aflonyddwr, cydiodd afael arno, a dododd ef ar y llawr, ac a'i gwasgodd yn dynn, er yn eithaf hamddenol. Wyddochi gwas i bwy ydw i?" gofynnai y gwr ar lawr. "Gwn o'r goreu," ebe'r pregethwr, "gwas y cythraul wyti, ond nid oes arna i ddim o dy ofn di na'th feistr." Ac ni ollyngodd y pregethwr mo'i afael hyd oni addawodd y gwas hwnnw, gwas i wr eglwysig fe ymddengys, na ddelai efe yno byth ond hynny i aflonyddu ar y gwasanaeth. Wedi ei ollwng, diangodd y gwas fel llechgi, ac oddiar ben yr hen goffr drachefn, aeth y pregeth—