wr ymlaen yn dawel gyda'i bregeth, ac o ran ei ddull fel pe na buasai dim neilltuol yn y byd wedi digwydd.
Y mae Morgan Jones, wrth roi hanes diwygiad 1859, yn adrodd hanesyn a glywodd efe gan hen wr am yr achos yn Nhŷ-ucha'r- ffordd. Daeth pregethwr dieithr i'r ardal, ac elai Wmphra Thomas, yr hen flaenor, i'r gwasanaeth yn ddigalon iawn, am na wyddai i ble y troid am lety i'r pregethwr, nac am y degwm arferol. Cyn cyrraedd y tŷ, pa fodd bynnag, wrth oleu'r lloer, wele rhywbeth disglair i'w ganfod ar y llawr. Gyda chyffro meddwl y gwelai Wmphra Thomas dri bisin swllt, â gwawr y lloer arnynt, ar gledr ei law. "Wel, wel," ebe fe wrtho'i hun, "dyma swllt am swper, swllt am frecwast a swllt yn llaw gwas yr Arglwydd." "Tybed fod hynyna'n wirionedd?" ebe Morgan Jones wrth wrando. "Ydi," ebe'r hen wr, "gyn wired a'r pader iti. Mi glywais Wmphra Thomas i hun yn dweyd, a ddwedodd o 'rioed anwiredd."
Yn 1784, drwy ymyriad person Aber, fe orfodwyd y ddiadell fechan godi o Dŷ-ucha'r-ffordd, a chwilio am gorlan mewn man arall. Yn y cyfwng hwnnw y daeth John Evans a Thomas Charles heibio, neu, yn ol adroddiad arall, John Evans ei hun, yr hwn a hysbysodd yr helynt i Charles wedi hynny. Gyda'r cynorthwy yma y penderfynwyd prynu darn o dir i adeiladu capel arno. Yn 1785 y dywedir ddarfod gwneuthur hyn, a William Evans y gwehydd a breswyliai yn y tŷ. Amseriad y weithred ydyw 1786. Yn honno fe ddywedir y prynid y tŷ, a elwid tŷ y cipar, ynghyda'r tŷ allan a'r ardd, a elwid gardd y cipar coch. Yr arian pwrcas, £40. Prynwyd gan Humphrey Lloyd Caernarvon a Lowri ei wraig. Fe ymddengys, pa fodd bynnag, oddiwrth gofnodion Cymdeithasfa'r Bala, 1787 a 1790, fod taliad blaenorol o £5 wedi ei wneud. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Evans Gwredog, Llanwnda, Hugh Williams Drws deugoed, Robert Jones Tirbach, Llanystumdwy [Rhoslan], Thomas Charles Bala, John Evans canwyllwr. Fe ymddengys na chyflwynwyd mo'r eiddo ar yr ymddiriedaeth a osodir allan yn y Weithred Gyfansoddiadol, ac yn 1890, fe benodwyd ymddiriedolwyr, a thynnwyd allan weithred yn gosod allan yr ymddiriedaeth.
1785, mae'n debyg, ydoedd amseriad y capel cyntaf. Yr ydoedd John Owen yn cofio'r capel hwn. Tybiai ef mai chwanegu