gaeaf, adroddai William Jones Dwr oer, y blaenor, beth o'i brofiad. Cafodd ef grefydd wedi bod yn y wlad bell. Drannoeth wedi ei harddel, penderfynodd gadw dyledswydd. Wedi agor y Beibl, wele ddau o'i hen gyfeillion i mewn, ar eu ffordd i Gaernarvon. Yr oedd William Jones rai dyddiau cyn hynny wedi cytuno â hwy i fyned y diwrnod hwnnw i'r dref am sbri. Yr oedd mewn profedigaeth i ddodi'r Beibl o'r neilltu; ond ar ail ystyried aeth ymlaen gyda'r darllen a'r weddi. Yna fe roddwyd pryd o fwyd o flaen y ddau gyfaill. Yr oeddynt hwythau yn bwyta fel rhai yn breuddwydio. Aethant eu ffordd heb yngan gair, gan droi tua chartref. Yr oedd y ddau wedi arddel crefydd ym Methesda cyn pen ychydig wythnosau, a daethant yn golofnau gyda'r achos yno. Fe ddaeth chwech o'r dychweledigion yn y Waen yn flaenoriaid. Edrydd Mr. Evan Evans am William Jones 'Rhen efail yn pregethu yn y Waen ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y diwygiad. Ar ganol y bregeth, fe deimlwyd rhyw ddylanwad yn cerdded y lle, ac yn symud fel tonn ar draws y capel. Nid oedd neb yno heb deimlo'r peth. Ebe'r pregethwr: "Mi welaf nad yw Gwr y Tŷ ddim wedi ymadael." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 400. Drysorfa, 1859, t. 276, 416; 1861, t. 245, sef ysgrifau Morgan Jones.) Rhif yr eglwys yn 1860, 334, cynnydd o 155 ers 1858; rhif yn 1862, 321; yn 1866, 290, cynnydd o 111 ers 1858. Y casgl at y weinidogaeth yn 1866, £90 10s., cynnydd o £34 10s. ers 1858.
Bu Pierce Owen y Gors, neu Williams, fel yr ysgrifennai ef ei hun ei enw, tad Mr. D. P. Williams, Y.H., farw Ebrill 14, 1859, yn 54 oed. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Pwyllog, gochelgar nodedig, di-droi-yn-ol, craff, ac yn gynllunydd. Ar y blaen gyda phethau allanol crefydd a chydag achos addysg. Yn allu ym mhlaid y diwygwyr, ebe'r Pierce Williams arall.
Ar flaen y golofn ymosodol bob amser, ebe Pierce Williams, y byddai Griffith Jones Ty'ntwll. Cynorthwywr galluog Owen Jones y crydd, ebe Dafydd Thomas. Owen Jones hirben yn fwy o'r golwg; Griffith Jones gynhyrfus yn fwy yn y golwg. Yn selog mewn amser ac allan o amser. Bu farw Hydref 1, 1860.
Rhagfyr, 1860, dewiswyd yn flaenoriaid, Samuel Morgan, David Morgan a Pierce Williams. Ymadawodd Samuel Morgan i Ddwyran, Môn, yn 1880. Yr oedd ef yn ysgrythyrwr da ac yn ffyddlon gyda'r gwaith.