Thomas Griffith Caegwyn gadarngryf, a fu farw Tachwedd 24, 1861, yn 75 oed, wedi bod yn flaenor am 33 mlynedd. Efe ydoedd y pen blaenor ar ol marw Richard Owen. Deuai i'r seiat ar ei union o'r chwarel heb alw adref, gyda'i biser bach o dan ei gesail, a gwthiai ef o'r golwg dan y fainc. Enwog am brydlondeb: prydlon wrth ddechre, prydlon wrth ddiweddu. Pan fyddai'r amser ar ben, yn o ddiswta weithiau, dyma'r pennill allan, neu ddamn pennill, "Trig yn Seion, aros yno." Go chwyrn wrth blant direidus. Gofal ganddo am esgeuluswyr. Yn ei amser ef yr oedd boneti yn dechre cymeryd lle'r hetiau. Anfadrwydd oedd hynny yngolwg Thomas Griffith, a dyrnai yn drwm ar yr arfer, yn gwbl ofer er hynny. Pan oedd y ciwpi yn dod i'r ffasiwn, fe ymladdodd yn ddewr yn erbyn y drwg hwnnw, ond ni orfu. Os byddai gan eneth fonet gwychach na'i chyfoedion, neu fachgen giwpi mwy golygus na neb arall, byddai Thomas Griffith wedi eu llygadu, ac fe anelai am danynt â'i bicell lymdost, er mawr fraw i'r drwgweithredwyr. Byddai yn codi llawer o fwganod, ebe Pierce Williams, heb allu eu dodi i lawr. Ond oni wnaeth Don Quixote y cyffelyb? Cewri, dewiniaid a byddinoedd arfog i'r arwr hwnnw ydoedd y mynachod cycyllog, y diadelloedd defaid a'r melinau gwynt. Ac nid o ddiffyg dewrder yn Thomas Griffith, mwy nag yn arwr mawr crebwyll, y troes ei ymgyrch ef allan yn ffuantus. Teil pawb warogaeth i amcan cywir Thomas Griffith. A dywed Mr. Owen Jones (Eryri Works gynt), ei fod ef y gweddiwr gyda'r hynotaf yn y Waen yn ei amser ef. Wyr iddo ef ydyw Mr. Thomas Jones yr ysgolfeistr.
Daethpwyd i deimlo fod yn rhaid naill ai helaethu'r capel neu godi un arall ar gwrr y Waen. Ymrannwyd yn ddwy blaid ar y cwestiwn, a rhedodd teimladau yn uchel. Y tymor yma ar ryw olwg y mwyaf profedigaethus yn hanes yr eglwys, ebe Mr. Francis Jones. Wedi bod o'r mater yn y Cyfarfod Misol droion, y blaid oedd am helaethu'r capel a orfu. Nid oedd tawelwch wedyn. Dyma fel y rhed cofnod Cyfarfod Misol Tachwedd, 1863: Waenfawr. Anghydfod yn yr eglwys oherwydd ail-adeiladu'r capel. Amryw yn dymuno cael rhyddid i adeiladu capel newydd. Darllennwyd llythyr oddiwrth ran o'r eglwys yn gofyn am hyn. I fyned yno i chwilio i'r achos: Mr. Phillips, Mr. J. Owen, Mr. D. Jones, Mr. Rt. Ellis. I fyned yno Tach. 11eg. Fod awdurdod y Cyfarfod Misol i'w gyflwyno i'r brodyr hyn i ymdrin â'r achos