bynnag!" Yntau yn cipio'r syniad i fyny,—Y nefoedd ddim yn y ddaear, ac yn ei agor allan a'i egluro fel ag i roi boddlonrwydd i bawb.
Yr oedd Owen Morgan Pant y cerryg yn wr distaw, digynnwrf, pwyllog, ymresymiadol a rhesymol, anhawdd ganddo siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae, yn dweyd geiriau â sylwedd ynddynt. Gwr o ymddiried; gwr cymeradwy. Llafuriodd i gasglu gwybodaeth, a rhoes hyn radd o awdurdod i'w farn ar bynciau diwinyddol. "Pan gynghorai," ebe Pierce Williams, derbynnid ei gyngor yn yr ysbryd goreu, a phan geryddai, ni feiddiai neb godi i fyny a gofyn, Pwy wyt ti, fel y gwrandawom ar dy lais?" Dywed Mr. R. O. Jones na chlywyd mono yn ceryddu neb am arfer geiriau anweddus, ac na chlywyd mo neb yn arfer y cyfryw eiriau yn ei wydd.
Feallai mai William Jones Dwr oer a dywynna allan yn fwyaf disglair, ar y cyfan, ymhlith blaenoriaid y Waen o'r cychwyn. Yr ydoedd efe yn ddyn y buasai arbenigrwydd yn perthyn iddo mewn unrhyw gymdeithas o ddynion. Yn ymyl bod, os nad yn llawn dwylath o daldra. Ymrestrodd gyda'r volunteers yn ieuanc, ac yr oedd ol disgyblaeth filwrol yn aros arno i'r diwedd. Yr oedd ei safiad yn syth, ei ddwyfron yn tafiu allan, ei edrychiad yn eon, ac yr ydoedd o gorff cryf a chymesur a llathraidd. Yn ei amser goreu yn ddyn sionc a gwisgi. Oherwydd methu o William Thomas Brynmelyn a'i glywed yn siarad rhag y gwynt yn chwarel Cae braich y cafn, rhoes yntau yn ddiatreg lam ato dros cutting Penrhydd, rhyw ddeg troedfedd neu ragor o led, ac o wyth i ddeg llath o ddyfnder. Os byddai tollborth Glangwna yn gaeedig wrth fyned ohono i Gaernarvon neu ddod yn ol, fe neidiai dros y llidiart heb gymaint a tharo ei law arno. Ei wisg oreu ydoedd gôt o wawr las, gwasgod o liw bwff gyda llin sidan wedi ei nyddu i mewn i'r deunydd, clôs pen glin llwyd gyda botymau melynion â ruban plethedig arno, hosanau o liw glas gyda rhesi gwynion, esgid fach â ruban yn ei chau am y troed del, coler yn lled godi i fyny, a ffunen sidan India am y gwddf, o liw coch neu las fel y digwyddai, a thros ben hynny het silc foneddig a ffon. Dyna ef ar y ffordd i'r dref, a'r bachgen John William Thomas yn syllu arno gydag edmygedd wrth iddo fyned. Eithr pa beth ydyw hyna y mae efe yn ei fwmial wrtho'i hun fel y cerdd yn ei flaen? Dyna'r