eisteddai ar fainc ar y llawr. Pan elai ambell un ohonynt ar dro yn rhy aflonydd, fe gawsai gelpan na byddai eisieu ail arno y rhawg, nac ar neb yn ei ymyl. Fe arferai William Jones ddweyd, ebe Pierce Williams, fod yn dda ganddo na ddarfu efe erioed yn ei amser gwaethaf dynnu eraill i ymrafael, ond mai cael ei wthio iddi y byddai er yn waethaf iddo. Nid hoff ganddo, ar ol ei ddychweliad, son am yr hen weithredoedd gynt. Ac nid amheuai neb gywirdeb y dychweliad hwnnw. Ni ddanghosai'r awydd lleiaf am sylw, ac eto fe'i perchid ym mhobman, a chreai ei ymddanghosiad arswyd ar yr afreolus. Ac yr oedd rhywbeth o'i amgylch yn rhwystro i neb fyned yn hyf arno. Pan elai ambell un, fel y digwyddai gynt, yn hyf dan ddisgyblaeth, gan herio'r eglwys i'w fwrw allan, ni fyddai eisieu ond i William Jones godi ar ei draed, nad ymdawelai, gan ymostwng i gymeryd ei arwain allan. Eithr nid ymyrrai fyth ynglyn â diarddeliad merch, pa mor ystrywgar bynnag y byddai neu pa mor fawr bynnag ei hystranciau. Gwelid rhai merched gynt y gorfu eu llusgo allan, ond ni cheid fyth mo help William Jones i'w gwastrodedd drwy na gair na gweithred. Tebyg nad oedd hynny yn lleihau dim ar ei ddylanwad gyda'r rhiannod. Ond heblaw awdurdod uniongyrchol a thynerwch, gallai ddefnyddio callineb neu gyfrwystra, er cyrraedd amcanion teilwng. Rhydd Pierce Williams enghraifft neu ddwy o hynny. Yr oedd amryw yn gwarafun rhoi'r capel i gynnal cyfarfodydd gwleidyddol. Rhowd ef i gynnal cyfarfod Jones-Parry. Gelwid William Jones i siarad, ond cyndyn iawn ydoedd i godi, nes y gwthiwyd ef ymlaen. Cyfeiriodd at wrthwynebiad dosbarth yn yr eglwys i areithio ar bolitics yn y capel. "Yr ydw i yn cael boddlonrwydd i mi fy hun," ebe yntau," wrth feddwl mai oddiar yr un mynydd y rhoes yr Arglwydd y ddeddf foesol a'r ddeddf wladwriaethol." Cyfeiriodd hefyd at waith yr ymgeisydd yn rhoi tir i adeiladu capelau, gan ddangos drwy hynny ei fod dros ryddid. Yn y dull yma y ceisiai fyned dan sail y gwrthwynebiad i arfer yr addoldy ar y cyfryw achlysuron. Enghraifft arall ohono. Yr oedd arweinwyr canu y Waen ar un adeg yn arfer mynychu tafarnau. Penodwyd William Jones ynghyda dau eraill i ymddiddan â hwy yn eu cyfarfod canu yn y capel. Clywodd y cantorion, a bwriadent sefyll at eu gynau. Ond fe ddechreuodd William Jones: "Wel, gyfeillion, nid ydym wedi dod yma i'ch diraddio. Na, ni byddai unrhyw anrhydedd yn rhy uchel gennyf i'ch gweled yn cael eich codi iddo, ond i chwi gael eich codi iddo gan Dduw ei hun yn ei ragluniaeth a'i ras. Ond
Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/51
Gwirwyd y dudalen hon