Eos Beuno am dano yn cyflwyno achos gwraig weddw dlawd gerbron. Ac adgoffai'r gynulleidfa mai'r cwbl oedd eisieu oedd talu ei phass i lan yr afon, y cymerai'r Llywodraeth Fawr ofal ohoni o hynny ymlaen. Cafodd y sylw y fath ddylanwad, fel yr oedd y casgl y tro hwnnw yn anarferol o fawr. Er holl awdurdod dull William Jones, ni flaenorai efe yn gymaint a Richard Owen neu Morgan Jones. Nid ydoedd chwaith o gwbl yn hafal iddynt hwy o ran dawn siarad. Eithr mewn awdurdod tawel fe ragorai. A thra y llaesodd dwylaw eraill ar y ffordd, fe wisgwyd William Jones âg ysbryd yr Arglwydd megys â mantell. Bu ef farw yn y flwyddyn 1874, yn 87 oed.
Rhoes yr eglwys alwad i'r Parch. Francis Jones, Ebrill 28, Rhoir hanes y cyfarfod sefydlu yn y Goleuad am Ragfyr 5. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog yn 1875. Traul, dros £700. Y ddyled yn 1874, £820; yn 1875, £747. Rhif yr eglwys yn 1874, 314.
Yn 1875 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, R. O. Jones, Evan Owen, a Morgan Jones. Ymadawodd yr olaf i Groesywaen pan sefydlwyd eglwys yno. Yn y flwyddyn hon y dechreuwyd cyhoeddi ystadegau yr eglwys.
Heb fod yn flaenor, yr oedd William Thomas Brynmelyn yn blaenori ar amryw ystyriaethau. Saif allan yn bennaf fel dirwestwr mwyaf aiddgar yr ardal ar ol dyddiau William Evans Cilfechydd. Eithr nid dirwest ydoedd ei unig bwnc. Yr ydoedd yn weithgar gyda'r achos yn gyffredinol, ac yn gyson yn y moddion ar hyd ei Yr ydoedd yn neilltuol ar weddi, a dywedir y byddai ym mhob wylnos. Yn rhy agored, medd Pierce Williams, i gwyno ar ei gymdogion yn ei weddiau cyhoeddus, a hynny mewn dull mor fanwl fel na ellid camgymeryd pwy a olygid. Fel siaradwr dawnus yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr eglwys yn ei gyfnod. Cyfeirir gan Richard Jones at ei ddisgrifiad o ffarwel y meddwyn i'w wydraid olaf. Dermyn teilwng o Gough ei hun unrhyw ddiwrnod, ebe Richard Jones. Cymerer hynny gyda gronyn o halen. Eithr nid oedd amheuaeth am ei ddawn. Fe glywyd Pierce Williams yn dweyd ar achlysur na chlywodd efe mo neb a fedrai siarad cystal a William Thomas ar bob pwnc a godai i fyny. Cymhariaethau ysgrythyrol fyddai ganddo yn y cyffredin, ac ni byddai