pall arnynt. Defnyddiai hefyd iaith dda. Nid oedd William Thomas, ebe Pierce Williams, yn perthyn i'r naill blaid na'r llall, y diwygwyr na'r ceidwadwyr, ond ymosodai ar y naill a'r llall yn eu tro. Yr oedd yn fwy eang na'r naill na'r llall, ond gwnelai ei unigrwydd ei rym yn llai. Areithiodd lawer ar ddirwest yn yr ardaloedd oddiamgylch. Gwr difyrrus yn ei gwmni. Yr un pennill a roe allan yn ddidor braidd yn y cyfarfod gweddi, ebe Mrs. Jane Williams Pant defaid, ydoedd,-Gadawn y byd ar ol, Y byd y cawsom wae. Mab iddo ydyw Mr. J. W. Thomas, ac ŵyr ydyw Mr. T. Llewelyn Thomas (Cemaes, Trefaldwyn). Bu farw Ionawr, 16, 1876.
Profwyd gradd o adfywiad crefyddol yn yr ardal yn 1876. Pregethwyd yn ystod Mawrth 13-17 gan James Donne, J. Roberts (Ieuan Gwyllt) ac Evan Roberts (Engedi). Cynhaliwyd cyfar- fodydd gweddiau yn ystod yr wythnos flaenorol. Arhosodd 22 ar ol. Yr ardal wedi ei chyffro drwyddi. Tymor diwygiad Moody ydoedd hwn. (Goleuad, 1876, Mawrth 25, t. 15).
Gomeddai John Owen Cae ystil (Tŷ capel gynt) weithredu fel blaenor, er wedi ei ddewis. Ni byddai yng nghyngor y blaenoriaid, ac ni weithredai fel y cyfryw yn gyhoeddus. Yr ydoedd yn gofiadur arbennig, fel y dengys y sylwadau a gymerwyd gan Mr. Francis Jones o'i enau. Nid yw'r sylwadau hynny ond lled fyrion, ond y maent yn neilltuol o fanwl a chryno yn y geiriad, a chydag amseriadau manwl-gywir. Ac wrth eu bod yn myned ymhellach yn ol nag atgofion neb arall yn hanes yr eglwys, y mae gwerth arbennig arnynt mor bell ag y maent yn cyrraedd. Ei wybodaeth yn fawr, er fod ei lyfrgell yn fechan. Y Beibl, Geiriadur Charles ac ychydig esboniadau oedd cynnwys ei lyfrgell agos i gyd. Byddai'r eglwys yn dyheu am ei glywed yn siarad. Ei fywyd yn llwyr-gytun a'i brofiadau. Bu farw Rhagfyr 2, 1878.
Gwr o ddawn ydoedd Morgan Jones Hafod oleu. Anfynych y clywodd Mr. Francis Jones ei ragorach, fel yr arfera ddweyd, mewn gallu ar ymadrodd ac o ran deheurwydd fel siaradwr. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1848. Yn wr cymeradwy yn y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yn fwy cyhoeddus fel blaenor ym mhob cylch na'r un arall o flaenoriaid yr eglwys yn ei gyfnod. Yr ydoedd felly yn y cyfarfod llenyddol,