coffadwriaeth ohono oddiar Mathew xxv. 13. (Goleuad, 1879, Mawrth 8, t. 13).
Yn Nhachwedd 1880, wedi i Eglwys Loegr werthu ei hawl yn yr ysgoldy genhedlaethol, cymerwyd y lle ar ardreth, a chynelid ysgol Sul yno, a phregeth bob mis.
Yn 1881 dewiswyd yn flaenoriaid: Owen Griffith, Owen Evans a Thomas Jones. Ymadawodd y blaenaf i Lanberis yn 1890, a'r olaf i Groesywaen ar sefydliad yr eglwys yno.
Medi 20, 1882, y dechreuodd J. J. Evans bregethu. Derbyniodd alwad i Lanfachreth yn 1889.
Cafwyd cyfres o gyfarfodydd gweddi a phregethau yn 1882, pryd yr ymunodd dros 80 â'r eglwys, ac y codwyd y rhif i 400. Bu Richard Owen yma yn 1884, ac, heb i lawer ddod o'r newydd, fe fu ei ymweliad â'r ardaloedd hyn yn adnewyddiad i'r eglwysi.
Hydref, 1883, yr ymadawodd Mr. Francis Jones i Abergele, wedi bod yma am naw mlynedd. Rhowd galwad i'r Parch. W. Ryle Davies, Mawrth 21, 1884. Dechre ar ei waith yma, Ebrill 1.
Bu farw Evan Owen, Medi 29, 1884, yn 71 oed, ac yn flaenor er 1875. Dyn mawr, cyhyrog. Ffyddlon iawn, heb ragoriaeth doniau. Bu ei wasanaeth yno gyda'r ysgol yn dra gwerthfawr. Ei ddidwylledd uwchlaw ei ameu.
Owen Jones y crydd oedd y cynllunydd goreu a gofid gan Dafydd Thomas. Nid yn ymadroddwr hyawdl. Ni fu'n flaenor; er hynny yn blaenori pawb gyda phob symudiad. Syn gan Richard Jones na etholwyd mono yn flaenor, gan ei fod yn hynod fel dyn a christion, ac yn llawn cymhwysterau er bod yn ddefnyddiol mewn byd ac eglwys. Ni chuddiodd mo'i dalentau chwaith, ond yr oedd fel lamp yn llosgi yn ddisglair. Disgrifir ef ymhellach gan Richard Jones fel yr ydoedd y pryd yr adnabu efe ef gyntaf. Tua chanol oed y pryd hwnnw, ac wedi colli ei wallt oddiar y coryn, a'r cernflew yn britho. Ychydig o dan y taldra cyffredin, gyda thalcen llydan a llawn, bochgernau lled uchel, llygaid canolig eu maint, trwyn byrr lluniaidd, gwefusau llawn. Tawel, boneddigaidd,