yn niwedd 1885. Yn niwedd y flwyddyn yr ymadawodd W. Ryle Davies, gan dderbyn galwad o eglwys Holloway, Llundain. Danghosodd ynni a brwdfrydedd mewn hyfforddi dynion ieuainc yma, a gadawodd ei ol yn amlwg ar amryw ohonynt. Cafodd rai odfeuon nodedig yma.
Yn 1886 yr agorwyd ysgoldy y Groeslon, er mwyn cynnal yno y moddion a gynhelid yn yr ysgoldy genhedlaethol gynt, sef ysgol ar bnawn Sul a phregeth bob mis. Y tir yn rhodd gan Mr. William Williams Groeslon. Rhowd y bregeth agoriadol Rhagfyr 2, yn y pnawn, gan Mr. Ryle Davies.
Yn 1887 y dewiswyd Evan Evans a John W. Thomas yn flaenoriaid.
Ebrill 27, 1890, rhowd galwad i Mr. W. O. Jones, B.A. Ymadawodd cyn diwedd 1892, gan dderbyn galwad i Chatham Street, Lerpwl.
Cyfeiriwyd o'r blaen at Evan Owen a'i lyfr, Fy hanes fy hun. Bu ef yn trigiannu mewn amryw fannau yn Arfon, a chyfeirir ato rai troion ynglyn â hanes gwahanol eglwysi yn y gwaith hwn. Bu yn y Waen ar ddau dymor. Hen gymeriad agored, difyr, cywir. Yn ei Ragdraith i'r Hanes y mae Alafon yn ei ddisgrifio fel "cyfuniad i raddau o Tomos Bartley a Wil Bryan; o ran helbulon a gwaredigaethau, yr oedd yn tebygu i Robinson Crusoe ac i Bererin Bunyan." Robinson Crusoe wedi treulio ei oes ar dir sych, dealler. Y mae'r hunangofiant byrr hwn yn un gwir lwyddiannus. Engraifft deg ydyw o'r dull byw o ysgrifennu a welir weithiau heb un ymgais at hynny. Terry Evan Owen ar y pethau sydd eisieu eu dweyd, yn lle troi a throsi o'u hamgylch heb unwaith fyned atynt, yn null lliaws y tybir ganddynt eu hunain eu bod yn amgen ysgrifenwyr nag ef. Bu farw yn Abertawe, Medi 10, 1891, yn 84 oed; ond claddwyd ef ym mynwent Betws Garmon.
Tachwedd 20, 1891, y bu farw Pierce Williams, yn 61 oed, sef y gwr y dyfynnwyd mor fynych o'i ysgriflyfr ynghorff hanes yr eglwys yma. Yn flaenor ers 1861. Yr arweinydd yn yr ardal mewn helyntion plwyfol, gwleidyddol a chrefyddol. Cadeirydd y Bwrdd Ysgol. Fel goruchwyliwr chwarel enillodd ymddiried