Cyfarfod Ysgolion, a saif yr ymgeiswyr yn gyffredin yn anrhydeddus ar y rhestr. Tachwedd 1. Ysgol y Plant. Nifer yn bresenol, 135. Un o'r ysgolion rhagoraf yn y dosbarth. Trefn dda a disgyblaeth gampus. Popeth yn gweithio fel peirianwaith, a'r athrawon fel yn cael pleser yn y gwaith. Canu rhagorol. Pe rhennid rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf, fe fyddai'r ysgol hon yn gynllun perffaith o drefniant addysgol. Y plant lleiaf yn dysgu'r A B fel dysgu cân heb adnabod y llythrennau. Dylesid newid y dull hwnnw. Hydref 25. Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan. Hydref 18. Croesywaen. Nifer yn bresennol, 117. Ysgol ragorol, yn cael ei chario ymlaen yn ddoeth ac yn drefnus. Dosbarthiadau o rai o 10 i 13 yn rhy fawr. Bychander yr adeilad yw'r achos. Nid oes dosbarth athrawon ynglŷn â'r ysgol. Ymgais dda i ddarllen; gwybodaeth ysgrythyrol ganmoladwy; ond byddai mwy o bara- toad yn fanteisiol. Y'llafur' yn yr holl ysgol allan o faes neilltuol wedi ef nodi yn flaenorol. D. Davies (Tremlyn). W. Gwenlyn Evans."
Wmphra Thomas oedd yr arweinydd canu cyntaf y mae dim cyfeiriad ato, a thebyg ei fod ef yn cyflawni ei swydd yn Nhŷucha'r-ffordd. Dafydd Hughes Pendas wedi hynny. Bu ef farw yn 1814. Thomas Williams Tŷ cwta ydoedd y dechreuydd canu cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, ac felly, mae'n eithaf tebyg, olynydd Dafydd Hughes. Y nesaf Wmphra William, brawd ei ragflaenydd. "Rhuo fel tarw," ebe Dafydd Thomas. Tebyg yn eu dull oedd y ddau frawd, ebe un cofiannydd. Disgrifir Wmphra William ganddo ef fel dyn dros ddwy lath o daldra. Gwr parod ei atebion. Ynghongl y sêt fawr y dechreuai'r canu. Cau ei lygaid wrth ganu, ac ysgwyd ei ben yn fawr. Siwr o'r dôn. Llais tenor uchel a chlir a da. Y mae yna ddisgrifiad arall eto o Wmphra William fel canwr, sef eiddo Richard Jones. Daw nid ychydig of bethau eraill i'r golwg o'r cyfnod hwnnw, heblaw y canu, yngoleu y disgrifiadau hyn. Henwr tal, trwm, corffol, ebe Richard Jones. Ar ol rhoi'r emyn allan, ebwch anaturiol. Ymsaethai y llais i