herbyn, hi a gododd ar ei thraed, a heriodd un o'r blaenoriaid wrth ei enw, os ydoedd ei hun yn ddibechod, am fyned ag agor y drws iddi. Byddid mewn penbleth weithiau i wybod pa beth a wneid â hi. Gadawodd Cadi yr ardal ymhen amser, a'r wlad a gafas lonydd. Er hynny, hi lynodd yn ddewr wrth grefydd i'r diwedd. A thebygir, wedi'r cwbl, nad ydoedd mor ddrwg ei chalon.
Y mae Dafydd Thomas yn sôn am weddïwyr hynod a glywodd yma. Fe ddywed y cyfrifid Owen Salmon, brawd Griffith Solomon, gan Owen Williams, awdur y Geirlyfr, yn un o'r rhai goreu a glywodd efe erioed fel gweddiwr. Cyfrifai Dafydd Thomas ei hun William Thomas Brynmelyn yn un o'r rhai mwyaf cynwysfawr, er fod eraill mwy gwlithog. "Dynion heb allu darllen ond yn bur garbwl, megys John Williams Dwr oer, William Owen Gwredog, William Jones y crydd, Roger Williams a Robert Rolant,—yn hollol anllythrennog, ac heb eu hystyried yn llawn mor llachar a'r cyffredin mewn pethau eraill, ond yn feistriaid y gynulleidfa pan ar eu gliniau, ac yn gallu hoelio clust pawb wrth eu lleferydd." Dywed Mr. Owen Jones (yr Eryri) mai Richard Griffith, a ymfudodd i'r America pan tua 30 oed, oedd un o'r rhai hynotaf mewn dawn gweddi a glywodd efe erioed.
Sonir am rai brodyr a chwiorydd go hynod heblaw y rhai a nodwyd. Enwyd Dafydd Hughes y Bendas fel dechreuwr canu. Daeth at grefydd yn fore a pharhaodd hyd yn hwyr. Dywed John Owen y byddai ganddo sylwadau hynod. Edrydd un: "Mae cychod y Borth yna yn cario pob rhyw beth, môch a phopeth. Ond ni wna cychod y plasau yna mo hynny, ac y mae rhyw arogl da yn dod ohonyn nhw. Ac felly y gwelwchi rai dynion yn foddlon i dderbyn a chario popeth, ond ni wna'r duwiol mo hynny." John Ellis Tŷ—ucha'r—ffordd oedd hen gristion da, diniwed. Ei hoff adnod ar weddi, "Os gallant ymbalfalu am dano a'i gael ef." A gwaeddai "Gogoniant" ar brydiau wrth ei choffhau. Evan Dafydd Llys y gwynt oedd hen wr parod, hoew, o dymherau bywiog, heb nemor allu. Pan glywai rai yn tueddu at brofiad uchel, ei air fyddai, "Cadw amat rhag anghofio'r Arglwydd dy Dduw"; a phan glywai rai yn tueddu at ddigalondid, "Cofia dy air wrth dy was, yn yr hwn y peraist iddo obeithio." Owen Salmon, brawd y Parch. Griffith Solomon, a thad Richard Owen Bryneithin, y blaenor,