Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

ynghanol twrr o blant, yn eu hyfforddi yn hanesion yr Hen Destament ac yn hanes y Gwaredwr. Hawdd iawn fyddai gan fechgyn ieuainc dyrru at ei gilydd ar y Sul i Bont y Cyrnant, a llawer gwaith y gwelwyd Modlan yn myned i'w canol i ddarllen rhannau o'r Beibl ac i'w cynghori. Hefyd, yr oedd yn llenores pur dda. Cyhoeddodd rai llyfrau bychain, addysgiadol, megys Rhodd Nain ac eraill. Bu farw yn 1895. [Lled hawdd ei thramgwyddo ydoedd, a chynhaliai gyfarfodydd o'i heiddo ei hun yn ei thŷ ei hunan, pan wedi digio wrth awdurdodau y capel. Yng nghyfarfodydd y merched, a gynhelid y pryd hwnnw, hi roddai fawr bwys ar addurniadau mewn gwisg fel arwyddion o falchter ysbrydol.] Un hynod iawn, hefyd, oedd Ruth Williams, mam Mr. D. P. Williams, Y.H., Ei hynodrwydd hi oedd tanbeidrwydd teimlad mewn canmol trefn cadwedigaeth. Nid oedd yn yr holl wlad ei gwell am orfoleddu. Nid yn unig moliannai â'i thafod, ond byddai'n neidio ac yn dawnsio yn ei sêt ac ar lawr y capel, a llawer gwaith y parhaodd i orfoleddu ar hyd y ffordd tuag adref o'r capel. [Yr ydoedd un tro, ebe Mr. Thomas Jones, wedi plygu y cwd blawd a'i ddodi dan ei het silc fawr, er mwyn ei gadw allan o'r golwg yn y gwasanaeth. Eithr hi anghofiodd am y cwd blawd pan ddechreuodd orfoleddu, ac aeth yr het i gantio y naill ochr, nes bod y blawd yn colli dros ei dillad. Byddai'n gorfoleddu law yn llaw â phobl wrth gerdded allan drwy'r capel. Ymadrodd a geid yn fynych ganddi, fel gyda mam Carlyle, oedd "gwreiddyn y mater." "A yw gwreiddyn y mater gen ti?" Gyda'r teimlad uchel hwn, nid oedd heb graffter i adnabod yr ysbrydion. Ceisiai gweinidog ieuanc unwaith ei thynnu allan, pan ar ymweliad â hi yn ei thŷ, er mwyn cael arddanghosiad o deimlad uchel, debygid. Yr ydoedd hi y pryd hwnnw dros 90 oed. Atebai hithau yn eithaf claiar, nad allai pobl ieuainc ddim myned i mewn i brofiad yr hen yn y cyfryw bethau.] Margaret Pritchard, (Pegi Richard John Owen yn ddiau), mam Richard Jones, awdwr yr erthygl yn y Traethodydd, a edrychid arni fel un o'r gwragedd mwyaf llednais a duwiol yn yr ardal. Barbara Pritchard oedd nodedig am ei gallu a'i dawn i weddio, a'i chwaer ieuangach, Sian Pritchard, oedd yn byw beunydd yn y Beibl. Merched yr hen flaenor, Richard Owen, oedd y ddwy olaf. Cynhelid cyfarfod gweddi y merched yn rheolaidd am lawer o flynyddoedd. Arferai'r gwragedd wisgo cap gwyn wedi ei gwilio o dan eu hetiau. Gwisgai rhai ddwy res neu dair o gwilyn; ond ni oddefid hynny yn y cynulliad hwn. Gwrthododd un wniadwraig