Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

gydymffurfio â phenderfyniad y lleill, a diarddelwyd hi o'r cyfarfod gweddi!"

Y mae gan Mr. R. O. Jones sylwadau pellach, yn dwyn perthynas â'r ysgol Sul, dirwest, y gymdeithas lenyddol a'r Cyfarfod Misol: "Rhwng 40 a 50 mlynedd yn ol, cymerodd amryw frodyr (na chrybwyllwyd am danynt yn y gweddill o'r hanes presennol), ran flaenllaw iawn ynglyn â'r ysgol Sul, addysg, llenyddiaeth a'r achos dirwestol. Cychwynnwyd ganddynt gyfarfodydd llenyddol, a ffurfiwyd undeb llenyddol rhwng y Waen, Ceunant a Llanrug. Cymerodd Ebenezer Morris, a fu yma yn ysgolfeistr am lawer o flynyddoedd, ac a ymadawodd oddiyma ddiwedd 1869 i Borthaethwy, ran flaenllaw gyda'r ysgol Sul, a gwnaeth wasanaeth rhagorol ynglyn â llenyddiaeth. Yr oedd bywiogrwydd a sel Moses Roberts, brodor o Dalsarnau, gyda'r ysgol a'r achos dirwestol, yn eithriadol. Dafydd Thomas oedd yn athraw llwyddiannus, ac yn fyw i bob diwygiad cymdeithasol. Owen Jones (yr Eryri), Thomas Jones Cyrnant lodge, Richard Jones Tŷ capel, Evan Evans, Richard Griffith Ty'r gorlan, Thomas Jones Brynmelyn, O. Griffith (Eryr Eryri) ac eraill, oedd i gyd yn amlwg iawn gyda'r ysgol a llenyddiaeth, a chymerent ran amlwg yn nygiad ymlaen waith allanol yr eglwys. A symbylid y swyddogion ganddynt hwy ac eraill yng nghyfeiriad bugeiliaeth eglwysig. Y cam cyntaf tuag at hynny oedd cael y Parch. D. Morris Caeathro yma i gynnal seiadau.

"Ymddengys fod y Cyfarfod Misol yn cael lle mawr yma yn adeg ein tadau. Rhywbryd tua'r flwyddyn 1848, bu yma Gyfarfod Misol eithriadol o luosog. Yr oedd y capel yn orlawn, a thyrfa allan yn llanw'r cowrt a'r ardd o flaen y capel. Pregethid yn y ffenestr wrth ochr y pulpud. Yr oedd Henry Rees yma yn cymeryd rhan. Yma, hefyd, mewn Cyfarfod Misol y bu John Williams Llecheiddior dan dipyn o gerydd y diwrnod cyntaf, ond yn seiat y bore dilynol dywedodd ychydig eiriau gyda'r fath hwyl nes y torrodd allan yn orfoledd. Rhowd croesaw calonnog i Gyfarfod Misol 1869, er fod yr eglwys dan faich lled drwm, wedi rhoi traul fawr ar ailadeiladu'r capel, yn talu llawer at dreuliau'r ysgol Frytanaidd, ac wedi dechre cynnal gweinidog. Ym Medi 1883 caed yma Gyfarfod Misol fel cymdeithasfa yn ei weithrediadau a'i boblogrwydd. Yn hwn yr ordeiniwyd John Thomas i fyned allan fel cenhadwr i Fryniau Cassia. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau