Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

gan Thomas Lewis, oedd wedi bod ar ymweliad â'r maes cenhadol, a'r Parchn. Edward Griffith Meifod, Rhys Jones, Dafydd Morris, W. Rowlands, Josiah Thomas, Thomas Levi, D. Charles Davies a'r Dr. Lewis Edwards."

Y mae Pierce Williams yn cyferbynu pethau fel yr oeddynt (dyweder, tuag 1850-65), ac fel y maent yn awr (1890). Mwy o arddanghosiadau corfforol o deimlad y pryd hwnnw. Gofyn am arwydd go amlwg o argyhoeddiad mewn ymgeisydd am aelodaeth. Nid oedd i un ddweyd ei fod yn gweddio yn ddigonol. Rhoi mwy o bwys ar yr hyn y tybid eu bod yn arwyddion allanol o falchter, megys gwisg. Heb roi cymaint pwys ag yn awr ar gyfrannu at gynnal crefydd. Heb eu deffro i ystyr y wedd wleidyddol ar grefydd. Mwy o ryw fath o waith gyda chrefydd yn awr, gyda llai o deimlad. Gellir cymeryd yr hen bobl yn ysgafn wrth edrych arnynt o rai cyfeiriadau; ond yr oeddynt wedi eu cyfaddasu i'w hoes eu hunain, ac yn effeithiol i'r gwaith y galwyd hwy iddo.

Rhif yr eglwys yn 1900, 446. Y ddyled, £924.