Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

fyntau. Be 'nei di yn y fan honno, rwyti'n ormod o bechadur,' medda fo wrtha'i wedyn. 'Ddaru chi ildio iddo?' gofynnai Rhys Williams. Na, choeliai fawr,' meddai hithau. 'Mi ddeudis wrtho fod Iesu Grist yn derbyn pechaduriaid.' Aeth hi yn ei blaen heibio y Drosgol, a'r diafol yn ei dilyn hyd ben bryn Cae Hywel. [Yma, yn ol Mr. Williams, meddai hi wrth y diafol, 'Ymaith, Satan,' ac ymaith ag ef!]

"Yr oedd y weinidogaeth deithiol yn effeithiol ryfeddol yn y blynyddoedd hynny. Byddai wyth o bregethwyr gyda ni aml i fis. Byddai Rhys Williams yn cael gan John Jones Talsarn roi ambell i bregeth ini ar noson waith.

Saboth cymundeb ar ol yr odfa 2 o'r gloch, byddai Rhys Williams yn myned i'r tŷ capel i nol bwrdd bach crwn, a'i osod ar y llawr, taenu lliain arno, gosod yr elfennau ar y bwrdd. Y bara ar blât bach, a chwpan bach, a photel o wydr du i ddal y gwin. Wedi hynny, mi ddoe yr eglwys o amgylch y bwrdd, yn blant yr un Tad o amgylch yr un bwrdd, ac ymborthi ar yr un bara, yn credu yn yr un Crist, yn ymladd â'r un gelynion, yn teithio tua'r un wlad,—yr oeddym yn un a chytun yn yr un lle.

"Byddai'n digwydd weithiau na fyddai neb ond Rowland Roberts a minnau i gadw cyfarfod gweddi nos Lun cynta'r mis. Mi ae Margared Morgans Minffordd i weddi y pryd hwnnw, a byddai 'n hwyliog iawn. A Mary Williams Cwm bychan yn barod i lanw y cylch pe byddai galwad. Byddai'n barod iawn i ddweyd ei phrofiad a'r profiad hwnnw yn bur gynes yn gyffredin. Pan fyddai Rhys Williams adref, byddwn yn teimlo fel pe buasai lond y capel ohonom, gan mor gryf a chalonog y byddem. Cawsom gymorth i ddal ati er gwaned oeddem. Dyna ryw ychydig o hanes yn bur fler i chwi, fy mrodyr, feallai y bydd o ryw wasanaeth i chwi pan y byddaf fi wedi huno gyda'm tadau. Amen."

Nid yw'r hanes hwn ond am gyfnod yr hen gapel, a hyd agoriad y newydd yn 1841. Nodir gan Mr. Williams mai Elin Dafydd oedd gwraig Cerryg y rhyd, ac y dygai hi sel dros yr ysgol, cystal a rhoi lloches iddi yn ei thŷ. Ac heblaw y gwasanaeth arbennig hwn pan ydoedd yr Arch yn ei thŷ, dywed y dylid coffa hefyd am ei phrofiadau melus mewn blynyddoedd diweddarach. Gwasanaethai