Rhif yr aelodau yn 1854, 41. Swm y ddyled, £254. Eisteddleoedd, 112; gosodid, 95. Cyfartaledd pris eisteddle am y chwarter, 7½c. Derbyniadau am y seti am y flwyddyn, £12. Yr hyn a ddengys fod pob perchen anadl o blith y rhai oedd gyfrifol am sêt yn talu am dani, ac un dros ben! Talu llogau âg arian y seti. Casgl y weinidogaeth, £7 3s. Bu cynnydd o 13 yn yr aelodau yn ystod y flwyddyn. Erbyn 1858, rhif yr eglwys, 44. Swm y ddyled yr un.
Codwyd yr eglwys yn amlwg drwy ddiwygiad 1859. Ysgydwyd hi o radd o ddifaterwch, ac amlhawyd plant iddi. Rhif yr eglwys yn 1859, 78; yn 1860, 80. Tynnwyd y ddyled i lawr yn ystod 1860 o £254 i £54. Casgl y weinidogaeth yr un flwyddyn, £18 12s. Rhif yr eglwys yn 1862, 76; yn 1866, 75 (mae'n debyg, er mai 175 sydd yn yr ystadegau). Yn 1859 y codwyd David Hughes Garreg fawr a John Humphreys Hafod y wern yn flaenoriaid.
Ac yn 1859 (Mai 7) y bu farw Rhys Williams Cwm bychan, yn 66 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 26 blynedd. Daeth at grefydd yn 21 oed yn "hen gapel main Waenfawr." Yn fuan wedyn y dechreuwyd cadw'r ysgol ym Mron y fedw uchaf, lle trigiannai Ann Evans. Gwnawd ef yn un o'r ddau flaenor cyntaf yma gyda John Davies, sef yn 1833, ac ni chodwyd neb arall tra bu Rhys Williams byw. O'r adeg y daeth at grefydd fe ymroes i lafurio am wybodaeth ysgrythyrol a phynciol. Yr oedd ganddo farn dda am bregeth. Chwiliai am reswm am y ffydd oedd yndde. Ac yr oedd ol yr Efengyl ar ei fuchedd. Gwnelai waith blaenor. Cerddai ar ei draed i Gyfarfodydd Misol y sir, pan y cynhelid hwy yn Lleyn ac Eifionnydd cystal ag yn Arfon. Ffyddlon gartref yr un modd. Llawenhae yn llawenydd eraill. Fel welbon o ystwyth. Yn ei elfen mewn ymddiddan crefyddol. Fel penteulu ynghanol ei deulu yn eglwys Salem. Fe gynhaliai yr ymddiddan yn y seiat mewn dull cartrefol a hamddenol. Efe oedd yr hynaf o'r ddau flaenor, ac efe yn hytrach a gymerai'r arweiniad. Efe, hefyd, oedd y dylanwad personol mwyaf yn yr eglwys o'r cychwyn, ac fe enillodd ymddiriedaeth yr ardal yn gyffredinol. Yr ydoedd yn gymydog cymwynasgar, gan estyn cymdogaeth dda ymhell ac agos. Ei ragoriaeth yn fwy mewn cymeriad na doniau, ac yn elfennau mwyaf deniadol cymeriad yn gymaint ag yn y rhai cryfaf. Oherwydd galwadau y gwaith copr yn Nrws y coed, nid oedd ef yn