Tudalen:Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr.djvu/97

Gwirwyd y dudalen hon

fyfyrio bob dydd am oes faith. Sylwadau ar derfyn y flwyddyn 1881. 1. Bu rhyw ychydig yn bresennol yn y cyfarfodydd eglwysig braidd i gyd. 2. Deunaw heb gael un seiat. 4. Nifer yn bresennol at ei gilydd, 40.

"1882. Ionawr 25. Elizabeth Hughes yn torri allan mewn gorfoledd, nes fod pawb yn wylo. Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. 2. 15 heb gael yr un seiat. 3. Heb gael pum seiat, 21 4. Cyfar- taledd, 40. 5. Oddeutu 20 wedi dilyn yn lled gyson.

"1883. Chwefror 21, Elizabeth Hughes Merddyn yn adrodd hen adnod a gododd ei phen hi uwchlaw ofn, 'Pa faint mwy y bydd i waed Crist.' Wedi diolch mwy am yr adnod yna na holl adnodau'r Beibl i gyd. Adnod fawr, yn cynnwys yr holl Feibl i gyd. Ebrill 4. Catherine Griffiths Bryncwil yn teimlo fod maddeuant rhad yn tueddu i gynyrchu edifeirwch dwfn. Ebrill 18. Gair o brofiad gwir ysbrydol gan Elizabeth Hughes. Torrodd allan i orfoledd cyn y diwedd. Cyn hynny y seiat yn oer; y swyddogion yn fud, ac heb ddeall ei gilydd. Canwyd pennill yr hen chwaer oedd yn gorfoleddu,- Ar groesbren brynhawn.' Mehefin 27. Catherine Jones Tanygraig yn teimlo ei bod yn nesu at ryw wlad.' Y dwfr yn myned yn llai wrth blymio o hyd. Yn ddigalon, ac eto'n gobeithio. Gorffennaf 25. Elizabeth Hughes: Y nôd sydd ar y rhagrithiwr wedi ei dychryn yn fawr; ond cafodd lan. Medi 5. Adroddiad gan y rhai fu yn gwrando Richard Owen yn y Capel Coch. Pawb wedi eu deffro: boddhad, difrifwch ac ofn. Elizabeth Hughes yn cael cymaint gyda chrefydd ag a allai ei ddal. Hydref 10. William Jones Rallt yn gofidio oherwydd ddarfod iddo pan o bymtheg i bump arhugain oed ddilyn bywyd nad oedd dda i ddim. Elizabeth Hughes: Myfi yw y ffordd.' Yr wyf o hyd yn dueddol i fynd ymhell iawn o'm lle; ond y mae yn ffordd i mi ddyfod at Dduw yn ei enw ef. Da iawn i mi fydd cael myned at orsedd gras. Byddaf yn meddwl yn bur gryf ambell dro fy mod mewn heddwch â Duw; ond y mae yn biti garw fy mod yn mynd i ameu drachefn. Ond mae munyd o edrych ar Aberth y Groes yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes. Hydref 31. Adnodau a adroddwyd: 'Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.' 'Ymdrechwch am fyned i mewn trwy y porth cyfyng.' Dangos yr un diwydrwydd er mwyn llawn sicrwydd gobaith.' 'Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon