Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES MORGANWG.

HANESIAETH.

HANESIAETH yw'r gadwyn sy'n uno'r gorphenol a'r presenol. Dyma'r yspiadur a'n cynnorthwya i edrych yn ol trwy niwl amser, a sylwi ar wrthddrychau a dygwyddiadau y cynoesoedd, a'u sylweddoli yn ddelweddau byw o flaen ein llygaid yn y presenol. Y cyfrwng hwn sy'n galluogi dyn i weled gweithredoedd gorchestol ei flaenafiaid, ac yn rhoddi iddo destyn llawenydd, trwy ddadblygu o'i flaen y dull y darfu i'r naill oes ddiwygio gweithredoedd yr oes flaenorol, nes dyfod o bethau i'w sefyllfa berffaith bresenol.

Mae hanesiaeth fel mynegfys mawr, yn cyfeirio at brif ddygwyddiadau y gorphenol, gan nodi allan gyda manylrwydd elfenau codiad a chwymp teyrnasoedd ac ymherodraethau yn ngwahanol oesau'r byd, a dengys yn eglur ysgogiadau llaw fawr Rhagluniaeth yn nhrefniad materion amser.

Mae dyddordeb pob hanes yn ymddibynu i raddau pell ar natur ei wrthddrych. Os na fedd y gwrthddrych neillduolion a'i gwahaniaetha oddiwrth bethau yn gyffredinol, nis gall hanes y cyfryw feddu y fath ddyddordeb fel ag i hawlio sylw y lluaws. O'r tu arall, os bydd cymmeriad y gwrthddrych yn cael ei ffurfio â'r fath neillduolion ag a'i hynoda yn mhlith gwrthddrychau ereill, gellir dysgwyl i'w hanes gynnwys dyddordeb i'r darllenydd, a budd i'w feddwl.

SIR FORGANWG

yw gwrthddrych y gyfrol hon, ac os yw hanes wedi ei nodweddu a dygwyddiadau ddarfu ddylanwadu ar dynged cenedl,-os yw amledd gwrthddrychau hynafiaethol, lluosogrwydd ac amrywiaeth golygfeydd, helaethrwydd maesydd hanesiaeth naturiol, digonedd o gyfoeth mwnol, eangder gweithfeydd a masnach, yn peri i Sir fod yn ddyddorol i'r hynafiaethydd, carwr golygfeydd natur, y sylwedydd celfydd, a'r cyfoethgar, y mae Morganwg yn enwog am yr holl bethau hyn, ac felly yn hawlio sylw arbenig.