Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phan y ceisia'r Gogledd chwythu arni,
Fe deifl y mur yr anadl rhewllyd drosti.
Ha! dyma fur âg ôl llaw Ddwyfol arno--
Mur ydyw a mynyddau'n feini ynddo!—D. M.

Yn gymmaint a bod y mynyddoedd hyn yn ffurfio'r fath gysgod i'r Fro, a'i bod yn cael ei dyfrhau yn dda, a natur ei thir yn fras a chynnyrchiol, a bod ei hinsawdd yn hynod dymherus, mae ei ffrwythlondeb yn ddiarebol, fel y gelwir hi yn fynych yn Ardd Cymru. Tyf y llysiau a'r ffrwythau tyneraf ynddi yn yr awyr agored, a cheir gwellt ei gwenith yn aml yn chwech troedfedd o hyd, fel nad yw y desgrifiad canlynol o honi yn eithafol:

Mae maesydd y Fro fel yn plygu dan bwysau
Y beichiau sydd arnynt o rawn brâs ac fr;-
Maent wedi eu llwytho yn drymion â ffrwythau,
Er llenwi angenion preswylwyr y tir;
Fe welir yr yd mewn aur godau melynion,
A'r gyrs têg o arian ar wyneb y maes,
Y rhai a ymchwyfiant o flaen yr awelon,
Yn ol ac yn mlaen megys gwallt hir a llaes.-D. M.

Un o'r manau manteisiaf i gael golwg eang ar y fro hon, yw pen Mynydd Garth Maelwg, rhwng Llantrisant a Llanharan. O'r fan hono gellir gweled y rhan fwyaf o'r fro ar unwaith, os bydd yr awyr yn glir. Ymddengys y gwastadedd fel bwrdd eang a llydan, wedi ei addurno â digon o amrywiaethau swynol a dorus; ymestyna Cledr- ffordd Deheudir Cymru (Great Western yn bresenol) yn agos trwy ganol y Fro, gan ffurfio llinell dywell a gwyrog o'r dwyrain i'r gor- llewin. Ar bob tu i'r Gledrffordd, yn ddeheuol a gogleddol, y mae'r gwastadedd wedi ei addurno â phalasau gwychion hwnt ac yma, y rhai a amgylchir â gerddi ffrwythlawn a phlanigfeydd prydferth. Gwelir hefyd luaws o Eglwysi hynafol a'u clych-dyrau dyrchafedig, fel yn ar- gymhell eu hunain i sylw yr edrychydd; yn nghyda nifer o bentrefi bychain, wedi eu prydferthu à Gwyngalch Cymru; a lluaws mawr o amaethdai yn mhob cyfeiriad, a'r maesydd o'u cwmpas yn arddangos olion llafur a diwydrwydd. Yn y Fro hefyd, gwelir lluaws amrywiol o hen Gestyll Normanaidd, y rhai fuont gynt yn amddiffynfeydd ced- yrn, ond yn awr yn adfeilion gan mwyaf. Dyfrheir y Fro gan luaws o afonydd a nentydd, ffurf wyrog igam-ogam y rhai sydd fel yn llefaru eu bod yn anfoddlon myned i'r môr i orphwys cyn disychedu pob rhan o'i thir. Ond er mor swynol yw yr olygfa, mae yn dwyn adgofion galarus i feddwl y Cymro gwladgarol, y rhai a bortreadir yn y llinellau canlynol:—

O! Fro deg, hyfrydol, dy harddwch ddwg adgof
I'r meddwl o'r amser y syrthiaist trwy frad;
Ac nis gall dy feibion byth ollwng yn annghof
Y cyfnod du, blin, pan gollasant eu gwlad;
Pan syrthiodd dy goron i ddwylaw Normaniaid,
Dy faesydd rudd-liwiwyd,-a fwydwyd â gwaed;
A gwelwyd dy ddewraf a'th hoffaf anwyliaid
Yn gorwedd yn feirwon bentyrau dan draed,