'Roedd harddwch a thegwch Gwlad Morgan mewn golwg,
Ei glynoedd yn llawnion o swynion i mi,-
Mai gwir yw'r ddiareb, a brofais yn amlwg,
"Morganwg lân olwg, Gardd Cymru yw hi:"
Afonydd a nentydd yn hyfryd gydsïo
Wrth fyn'd trwy'r ardaloedd, gan felus ddatgeinio,
A cherdd-gôr y goedwig yn siriol gydseinio,
Trwy ddatgan—"Morganwg, Gardd Cymru yw hi.'
Hyf fostied estroniaid eu gwledydd a'u teithi,-
Eidaliaid ac Ellmyn, i'w broydd ro'nt fri;
Eill Ffrangcod a'u coegni a'u moeseg gystadlu
Eu gwlad â Morganwg?-Gardd Cymru yw hi:
Ein merched mewn glendid ar ereill ragorant,
Mwy gwylaidd a didwyll, mwy tlws eu tai drefnant,
Beirdd Cymru a'u molant, a hwythau addurnant
Gain fynwes Morganwg,-Gardd Cymru yw hi.
Chwi feirdd y gogledd-barth, nis gellwch ei wadu,—
I'ch diffaith fynyddau gwnewch gerddi diri';
Y llanc sy'n eich herio wna gysson ddyrchafu
Morganwg a'i harddwch,-Gardd Cymru yw hi:
Yn mhentre'r Bontfaen ca y llange hwn ei fagu,
Yn nghanol yr Ardd mae'n blodeuo a thyfu,
Ac ar ei theg fynwes y cana nes trengu-
I geinion Morganwg,—Gardd Cymru yw hi.
BLAENAU MORGANWG.
Blaenau Morganwg yw holl fynydd-dir gogledd-barth y Sir, rhwng afon Rhymni ac afon Nedd; ac y mae yr enw yn cyfateb natur y lle yn hollol, yr hyn a ddengys mai nid cenedl anwybodus, hanner barbaraidd a ffurfiasant yr enw, ond cenedl o athronwyr naturiol, y rhai a fathent enwau i ateb natur y gwrthddrychau. Yn y mynydd-dir a nodwyd, y mae Blaenau agos yr oll o nentydd ac afonydd y Sir; a chan mai yma y tarddant, rhoddwyd yr enw Blaenau Morganwg i'r ardal. Ceir yr enwau canlynol yn awr ar amaethdai, &c., y rhai sydd yn agos i darddleoedd nentydd ac afonydd, ac wedi cael eu henwi oddiwrthynt, ac yn unol â'u sefyllfaoedd :-Blaen Bargoed neu Bargod, Blaen Canaid, Blaen Gwrach, Blaen Aman, Blaen Clydach, Blaen Rhondda, Blaen Ewenni, Blaen Ogwy, Blaen Garw, Blaen Llyfnwy, Blaen Corrwg, &c. Mae yn amlwg oddiwrth yr enwau hyn fod ystyr i'r enw eangach Blaenau Morganwg, a'i fod yn cydweddu â natur yr ardal yn berffaith.
GWYR.
Gwyr briodol, neu Dir Gŵyr, yw'r mynydd-barth rhwng afonydd Nedd a Llychwr, yn cynnwys plwyfi Llangattwg Nedd, Cilybebyll, Llansamlet, Eglwys Fair Abertawy, Llangyfelach, Cas'lychwr, Llandeilo Talybont, a Llangiwc. Cafodd y parth hwn o'r Sir yr enw Gwyr gan ein hynafiaid, o herwydd ei ffurf wyrog; ac y mae y rhan fwyaf o hono yn fynyddig fel Blaenau Morganwg.