Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ymyl y fan hon y mae pont ardderchog yn croesi y Taf Fawr, dros yr hon y rhed peiriannau Cledrffordd Merthyr ac Aberhonddu. Gelwir hi Pont y Cefn. Y mae iddi 16 bwa, 40 troedfedd o rychwant (span) yr un, a'i huchder o'r afon yn 120 troedfedd. Costiodd ei gwneyd £25,000.

Pont gylchog gaerog yw gwel—uwch ffreu-dwrdd
Iach ffrydiau Taf isel,—
Pont copa pant y capel.
—A. Fardd.

Pont orwech uwch pant arwain,-ffordd na sigl
Ffwrdd yn syth y llemain)
Dros ei gwar y gerbydres gain
I'w thaith ymaith, heb chwith ddamwain.
—Morgan Morganwg.

Wedi uniad y ddwy gangen â'u gilydd, gelwir y corff dwfr yn Afon Taf, gan adael allan yr ansoddeiriau Fechan a Fawr. naturiol, Dyma ddarlun cywir, a barddonol o'r afon hon :

Wele afon orlifawg—afon Taf,
Hufen tir Brycheiniawg;
A chwyrn gyfeiria o'i chawg
Hyd Hafren ei chorff dyfrawg.

Ei gwely'n y graig galed—a rygnodd
Drwy egni ei myned;
I'r oror ar i waered
Mae ei threigl, ac ymaith rhed.

Edrych pan fo'r storm hydrwyllt—ar wgus
Gynddeiriogiad gorwyllt;
Argoda'i llif ergydwyllt,
A lliw gwaed, yn genlli' gwyllt.
—Dafydd Bowen.

Gyda bod y ddwy chwaer yn cofleidio eu gilydd, mae llaw celfyddyd yn arwain peth o'r dyfroedd i wasanaethu Gwaith y Gyfarthfa, trwy gynnorthwy'r tân i gynnyrchu ager, er ysgogi cymmalau gwahanol beiriannau yr haiarnfa eang hon. Try celfyddyd lawer o gorff yr afon hefyd o'i gwely naturiol i wely celfyddydol y Camlas, sef y culfor sydd rhwng Merthyr a Chaerdydd. Tua chanol tref Merthyr, derbynia'r Taf y Morlais i'w mynwes ar ei thu dwyreiniol; ac yn fuan ar ol hyn, troir llawer o'i nerth i'r Ddwfrffos sydd yn arwain i Haiarnfa Plymouth, &c., a derbynia yr unrhyw drachefn ger Troedyrhiw. Tua milldir islaw Merthyr, derbynia'r Taf Nant-y-Bwch dan ei chesail ddwyreiniol ger Gwaith Plymouth; a thua milldir yn îs drachefn, derbynia Nant Canaid yn ei llaw orllewinol. Tardd hon yn Mlaen Canaid-cychwynle Ymneillduaeth Cymru. Ger Troedyrhiw, mae agerbeiriant nerthol yn codi 20 tunell o ddwfr yr afon bob mynyd i'r Camlas.

Mae agerdd beiriant myg hardd bery—'n glod
I feib glew y Cymry,
Wrth Bont Rhun, trwy nerth ban try
Hen Daf fwyn, rhed i fyny.

Unwaith egyr ei thagell—o'r llyn dwr
Ei llon'd dyn i'w phibell;
Symmud bob mynud mae'n mhell
O gant hon ugain tunell.