Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I mewn y tyn gymmaint a all—o'r tew
Ddwfr Taf yn ddiball;
Yf un llif, denfyn y llall
I'w boeri'r wyneb arall.
—Ifor Cwm Gwys.

Ar ol ymadael âg ardal Troedyrhiw, rhed afon Taf tua'r dê yn ei chwm isel, rhwng dau fynydd bannog; ac â yn wylaidd dan Bont y Gwaith a'r bont fwaog newydd perthynol i gwmni Cledrffordd y Great Western, ac yna dan bont uchel fwaog Cledrffordd Cwm Taf, lle try tua'r dwyrain i gyfarfod afonig y Bargoed Fawr ger Mynwent y Crynwyr. Tardd Bargoed Fawr tua milldir i'r dê o Dwyn-yWaun, a rhed tua'r dê trwy gwm cul, gan wahanu plwyfi Merthyr a Gelligaer, ac ymgyll yn y Taf fel y nodwyd, ger Mynwent y Crynwyr. Ychydig yn is drachefn, ychwanegir maint a nerth y Taf trwy ymarllwysiad afon Cynon iddi. Tardd afon Cynon yn Llygad Cynon, yn mhlwyf Penderyn, Brycheiniog; a rhed tua'r dê heibio pentref Hirwaun; llwnge afonig Dar yn Aberdar, a'r Aman yn Aberaman, yn nghyda lluaws o fan ffrydiau ereill ar ei ffordd i gyfarfod â'r Taf, yr hon a'i llwnge hithau. Tua dwy filldir yn is drachefn, rhed Nant Cludach i'r Taf ar ei thu gorllewinol, a Nant Cydudwg ar y tu dwyreiniol. Tardd y flaenaf yn mhlwyf Llanwynno, a'r olaf yn Llanfabon. Ar ol derbyn y rhai hyn, rhed y Taf yn araf nes cyrhaedd y llecyn garw hwnw a elwir Berw Taf, wrth droed Crair-yr-Hesg. Wrth ymdrechu myned dros y clogwyni geirwon yno, mae'r afon yn glafoeri a malu ewyn fel pe wedi ymgynddeiriogi :

Dwfr-lwngc, disgynfa dwfr-lif—yw Berw Taf,
Obry tyr yn wynllif;
A phair adlais y ffrydlif
I'r ddwy lan roddi ail lif.
—Cawr Cynon.

Ar ol gadael y crochan garw hwn, â yr afon yn ostyngedig dan Hen Bont-y-Pridd a'r Bont Newydd sydd yn ei hymyl, ac yna derbynia afon Rhondda i'w chol.

Rhondda a Thaf mewn ymrafael—erioed
Redant i gad-afael;
Ond Taf wrth fyth ymafael
Yf nerth eu gwrth-afon hael.
—Morgan Morganwg.

Mae afon Rhondda yn tarddu mewn dwy ffynnonell, a gelwir y ddwy gangen cyn eu huniad, y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr. Tardd y flaenaf rhwng Craig-y-Bwlch a Chraig-y-Llyn, yn ngogleddbarth y Sir; a rhed dan Bont Lluest Wen, ac yna trwy ei chwm cul heibio Castell y Nos, pentref Blaenllechau, dan Bont y Gwaith, &c., ac ymarllwysa i'r Rhondda Fawr mewn lle a elwir y Cymmer. Afon Rhondda Fach yw'r ffin rhwng plwyf Aberdar ac Ystrad-dyfodwg am amryw filldiroedd, ac hefyd rhwng plwyf Llanwynno a'r Ystrad. Ffurfir afon Rhondda Fawr trwy gydgyfarfyddiad amryw ffrydiau mynyddig mewn man a elwir Blaen Rhondda, lle y disgyna amryw nentydd dros greigiau serth, gan ffurfio rhaiadrau trystfawr a phrydferth. Tardd un o'r nentydd hyn, a elwir Nant Rhyd y Cyllyll, mewn