Ar ol gadael ardal Pont-y-pridd, rhed afon Taf heibio Eglwys Glyn Taf, Trefforest, &c., ac ar ol derbyn Nant Garw, pasia waith a phentref Pentyrch, y Castell Coch, a Llandaf, ac yna ymarllwysa i Hafren yn Nghaerdydd.
III. AFON ELAI.—Tardd hon tua chanolbarth y sir mewn amryw fan ffynnonellau, yn ardal Penrhiwfer, ar du gogleddol pentref Tonyrefail, heibio yr hwn y rhed. Ar ol pasio Tonyrefail, rhed i gyfeiriad dê-ddwyreiniol, gan olchi godre Mynydd Garth Maelwg. Pan ar gyfer Llantrisant, tua milldir i'r gorllewin i'r dref, cymmer Elai Nant Muchudd i'w mynwes wleb. Derbyniodd Muchudd ei henw oddiwrth liw du y ddaiar y rhed trwyddi, oblegyd ystyr "muchudd" yw du— jet. Y nant nesaf a ymarllwys i'r Elai yw y Clun, neu'r Clown, fel ei gelwir yn gyffredin; yr hon a dardd yn Llanilltyd Faerdref, ar du dwyreiniol y brif heol sydd yn arwain o Lantrisant i Bontypridd. Derbynia y Clun Nant Dowlas (Dulas) ger fferm Rhiw'r Saeson, a Nant y Cesail tua hanner milldir yn îs, ac yna rhydd dro tua'r dêorllewin, gan aberu yn Elai ger Pont Clun, yn agos i orsaf Llantrisant ar Gledrffordd y Great Western. Wedi derbyn y Clun, rhed Elai am tua milldir i'r dê; ac yna try i'r dê-ddwyrain, gan basio Palas Meisgyn (Miskin), yr hwn sydd ar ei thu dwyreiniol, tra y saif Castell Hensol y tu arall. Ar ol cyrhaedd Llanbedr y Fro, try yr afon yn fwy dwyreiniol drachefn, gan basio Pentref St. George's, St. Ffagan, a Thre Lai; ac yna try ei phen tua'r dê, gan wthio ei hun dan Bont Lecwydd (Leckwith), ac ymarllwysa i Fôr Hafren ger Penarth, lle y dygir yn mlaen lawer o fasnach arni. Mae hon, fel afonydd ereill y Sir, yn heigio o bysgod; ac yn misoedd yr haf, ymblesera llawer o foneddwyr ar ei glanau yn y gorchwyl o bysgotta. Gan ei bod yn rhedeg trwy lawer o faesydd breision y Fro, ceir rhai o'r golygfeydd hyfrydaf ar ei glanau.
IV. AFON DAWEN.—Tardd hon tua 2 filldir i'r gogledd o Lansannor; ac ar ol taith o 4 milldir, cyrhaedda dref y Bontfaen. Oddiyno rhed trwy ei dyffryn swynol a ffrwythlawn, gan fyned trwy ganol pentref Llanfleiddian Fawr, ac heibio Llandochwy'r Bontfaen, Hen Gastell Beauprè, Castell Fonmon, &c., ac ymarllwysa i Hafren yn Aberddawen. Swynodd glanau yr afon fechan hon galonau amryw o'r Marchogion Normanaidd yn 1091, fel y dewisasant yr ardal brydferth yma yn fan i adeiladu eu Cestyll, adfeilion y rhai a welir yma yn awr.
V. AFON EWENNI.—Enw priodol hon yw Ewynwy (Frothy River), ac y mae yr enw yn ddesgrifiad cywir o honi. Tardd yn Mlaen Ewenni, ar du gorllewinol Mynydd Garth Maelwg. Oddiyno rhed tua'r dê, heibio Llanharan; ac yna i'r dê-orllewin am tua 2 filldir a hanner, lle y derbynia afonig fechan, yr hon a ffurfir trwy uniad dwy nant o'r enwau Crymlun a Ciwc. Tardd y flaenaf ar Fynydd y Gaer, yn Mlaen Crymlun, a rhed i gyfeiriad dê-ddwyrain ar y tu gogleddol i fynydd Cefn Hirgoed; ac una â'r Giwc ar du gogleddol Cledrffordd y Great Western, tua hanner milldir i'r dwyrain o orsaf Pencoed. Tardd y Giwc ychydig i'r de i Lanbedr ar fynydd, lle mae tri amaethdy o'r enwau