Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Llyfnwy deg, ar lawr ei dyffryn isel,
Ymlithra'n dawel dros ei phalmant cwrel;
A'i gloyw ffrwd fel arian byw rhedegog,
A'i ffurf fel cain fodrwyau ymddolenog;
A'r gwigoedd îr sydd ar ei glanau'n tyfu,
Ymblygant gyda gwylder i'w chusanu.

O'r Maesteg hi rêd i'r de-ddwyrain, heibio Llangynwyd, Bryn Llywarch, Cefn Ydfa, a'r Tondu, wedi derbyn Nant Cydfyw ger Ponty-rhyd-ddu, ac abera yn Ogwy yn ymyl Llansantffraid-ar-Ogwy. Ychydig islaw Aberllyfnwy y mae Abercenffig, lle yr ymarllwysa Nant Cenffig i afon Ogwy. Tardd y nant hon yn mhlwyf Margam, ac y mae ei rhediad yn ddwyreiniol. Wedi derbyn hon, rhed yr Ogwy am tua 2 filldir a hanner hyd dref Penybont-ar Ogwy, a rhed drachefn oddiyno i'r mor mewn cyfeiriad de-orllewinol. Mae'r Ogwy yn enwog iawn am ei physgod; ond cyfyngir y rhyddid i'w dal i bysgotwyr, y rhai a ardrethant yr afon gan berchenogion y tiroedd trwy y rhai y rhed. Amser dal y Brithyll a'r Salmon Pink, yw o fis Ebrill hyd Fehefin, Sewin o Fai hyd Gorphenaf, a'r Eog (Salmon) o Awst hyd Dachwedd. VII. AFON AFAN. --Tardd hon yn Mlaen Afan, ger Crug Afan, mewn mynydd-dir gwyllt, ar du gogleddol Mynydd Llangeinor; a rhed lluaws o fan nentydd iddi yn agos i'w tharddle, megys Nant Gwynfu yn Abergwynfu; Esgeirnant drachefn, a Nant-y-fedw, yr hon a rêd iddi o'r tu deheu. Mae cyfeiriad rhediad yr Afan o'r dwyrain i'r gorllewin; ac mewn lle a elwir Cymmer, rhed afon Corrwg iddi ar ei thu gogleddol. Tardd afon Corrwg mewn dwy ffynnonell a elwir y Corrwg Fawr a'r Corrwg Fach. Cychwyna'r flaenaf ei thaith yn Mlaen Corrwg, yn agos i Garn Moesen; ac unant a'u gilydd ger Eglwys Glyn Corrwg. Yna, ar ol derbyn Nant-y-tewlaeth, rhydd afon Corrwg ei hun i ofal Afan i'w dwyn i'r mor. Ar ol rhedeg tua milldir o'r Cymmer, derbynia Afan Nant-y-gregen ar ei thu gogleddol, a Nant-ytrafael ar ei thu deheuol. Yna rhed yn yr un cyfeiriad, gan dderbyn adgyfnerthion ar ei thaith trwy bentref Pont-rhyd-y-fen, ac yna rhed trwy Gwm Afan, heibio Llanfihangel Ynys Afan a'r Gweithfeydd poblog sydd yn ymyl, ac yna gwna ei gwely yn y mor ychydig islaw tref hynafol Aberafan.

VIII. AFON NEDD.—Ystyr y gair "Nedd" yw tröellog; a chafodd yr afon hon yr enw o herwydd ei ffurf. Ffurfir hi yn afon trwy gydgyfarfyddiad amryw nentydd, megys y Llia, y Dregarth, y Pyrddin, neu Purdden; y Felltwy, a'r Hepste; y rhai a darddant yn Mrycheiniog mewn ardal wyllt a rhamantus dros ben. Nid yw y ddwy nant flaenaf a enwyd ond bychain a dibwys; o ganlyniad, y flaenaf i gael ein sylw yw y Pyrddin. Rhed hon yn chwyrn yn ei chwm cul a choediog; ac mewn un man, neidia dros graig serth 85 troedfedd o ddyfnder, gan ffurfio rhaiadr mawreddog a thrystfawr, a elwir:—

SCWD EINION GAM.

Llam Scwd Einion Gam i gyd—dros y graig,
Dyry sgrech daranllyd:
Dan y graig, mewn llydan gryd,
Daw i fuan adfywyd.—D. M.