Mae i afonig Hepste hefyd ddau raiadr, un sef Scwd yr Eirwy dros graig serth 50 troedfedd o ddyfnder, lle y gellir pasio dan yr afon heb wlychu. Bu llawer yn sefyll dan y ffrwd, neu yn hytrach rhwng y scwd a'r graig, i gysgodi rhag cawod o wlaw! Y ddisgynfa arall sydd fath o dreigliad chwyrn dros glogwyni geirwon am tua 300 o latheni. Una'r mân afonydd a enwyd yn ardal Pont Nedd Fechan, gan ffurfio Afon Nedd briodol. Oddiwrth Bont Nedd Fechan, rhed yr afon trwy un o'r dyffrynoedd harddaf yn y Sir, gan fyned heibio pentrefi Glyn Nedd, Rhesolfen, Aberdulais, a thref Castell Nedd, a derbynia ar ei thaith luaws o fân nentydd heblaw y rhai a enwyd, ac ar un o honynt, ger Melin Court, y mae rhaiadr prydferth. Wedi gadael tref Castell Nedd, rhed yr afon trwy dir gwastad nes aberu yn Môr Hafren ger Briton Ferry. Mae'r afon hon yn fordwyol i fyny hyd Gastell Nedd, lle y dygir llawer o fasnach yn mlaen arni.
IX. AFON TAWY.—Tardd prif gangen hon yn Llyn y Fan Fawr yn Mrycheiniog, a rhed heibio Mynydd Talsarn, y Fforest Fawr, &c., gan adael Capel Pont-rhyd-arw ar y dwyrain, ac ychydig yn ddeheuol i hyn derbynia Nant Llech. Mae rhaiadr ar y Llech ger Capel Coelbren, a elwir Scwd Hen Rhyd, lle naid y nant dros graig anferth dros 100 troedfedd o ddyfnder. Ar ol derbyn y nant hon, rhed y Tawy agos yn ddeheuol nes cyrhaedd y Neuadd Fawr, lle y troir llawer o'i dyfroedd o'r gwely naturiol i ffurfio Camlas Cwm Tawy. Yn Ystradgynlais, rhed afon Giedd i'r Tawy ar ei thu gorllewinol. Tua milldir yn is, croesa'r Tawy y ffin o Frycheiniog i Forganwg ar du gogleddol Ystalyfera, lle yr ymarllwysa afon Twrch iddi o Gwm Twrch, ar du'r gorllewin. Ar ol gwasanaethu ardal Ystalyfera, rhed y Tawy dros ei phalmant graian hyd ardal boblog Pontardawe, lle y rhed Nant Hecel iddi. Oddiyno rhed i waered heibio gwaith Ynyspenllwch, a derbynia'r Clydach i'w chol, gan ei chludo gyda hi dan Bont Treforris a Phont Glandwr, ac yna abera yn Abertawy.
X. AFON LLIW.—-Mae hon mewn ystyr briodol yn ddwy afon, oblegyd ni una'r ddwy gangen â'u gilydd nes o fewn hanner milldir i'r mor. Tardd y gangen ddwyreiniol yn ardal Cil Cynwyr, tua dwy filldir i'r gorllewin o Langyfelach, a rhed heibio'r Efail Wen, a than Bont Llewydde, yr hon sydd ar ffordd Abertawy a Chas'lwchwr, ac oddiyno i gyfeiriad gorllewinol braidd hyd ei haberiad. Y Lliw briodol, sef y gangen orllewinol, a dardd yn ardal Gelli Wyrain, a rhed dan Bont Lliw, ar ffordd Abertawy a Phontarddulais. Yna rhed am tua dwy filldir yn gydfynedol â Chledrffordd Abertawy a Phontarddulais, yr hon a'i croesa yn Rhyd-y-mardy. Yna try yr afon yn fwy i'r gorllewin, gan fyned dan Bont y Brenin, ar ffordd Abertawy a Chas'lwchwr, ac oddiyno dan bont Cledrffordd Deheudir Cymru (Great Western); ac yn mhen ychydig ar ôl hyn, derbynia ei chwaer i'w chol, ac abera ar Forfa Lliw, yn agos i Aber Llwchwr.
XI. AFON LLWCHWR, neu Llychwyr.—Hon yw ffin gorllewinol Morganwg, ac a'i gwahana oddiwrth Sir Gaerfyrddin. Tardd hon yn Llygad Llwchwr, Sir Gaerfyrddin. Rhed afon Aman iddi ger Pantyfynnon, a'r Dulais ger Pontarddulais, a'r Gwili Fach ar gyfer Llan-