Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deilo Talybont. Ar ol derbyn y Gwili Fach, rhed y Llwchwr trwy fath o forfa llydan a brwynog, a than Bont Cas'lwchwr, a phont fawr y Gledrffordd, ac yna abera yn dawel fel y lleill yn mynwes hallt y mor.

MYNYDDAU MORGANWG.

Gwir nas gellir bostio uchder mynyddau Morganwg, etto y maent yn lluosog, cyfoethog, a dyddorol; ac felly cyfleaf res o enwau y prif rai o honynt yn y fan yma, gan ddechreu ar ochr ddwyreiniol y Sir.

1. Cefn Brithdir.—Saif y mynydd hwn yn mharth gogledd-ddwyreiniol plwyf Gelligaer, rhwng afon Rhymni a Bargod Rhymni. Credwyf mai Bargod y dylid ysgrifenu'r enw, ac nid Bargoed. Ar ben y mynydd hwn y mae Maen Teyron, a bernir ei fod yma er y 7fed ganrif, yn goffadwriaeth am Teyron, un o deulu Brychan Brycheiniog. Ychydig oddiwrth y Maen y mae Capel y Brithdir, perthynol i Eglwys Gelligaer.

2. Cefn Gelligaer.—Mae hwn etto yn yr un plwyf, ac yn gorwedd rhwng y ddwy afonig a elwir Bargod Rhymni a Bargod Taf. Ar ben hwn y mae carnedd o geryg a elwir Carn y Bugail, ac yn agos iddi y mae careg fawr a elwir Y Maen Hir, yn sefyll fel post ar ychydig ogwydd, tuag wyth troedfedd allan o'r mynydd, a bernir mai y Rhufeiniaid a'i gosodasant yma. Ar ran o'r mynydd hwn y mae adfeilion hen Gapel Gwladus. (Gwel Gelligaer.)

3. Cefn Merthyr.—Saif hwn yn mhlwyf Merthyr Tydfil, rhwng Bargod Taf ac afon Taf, a'i gyfeiriad o'r gogledd i'r dê.

4. Mynydd Eglwysilan.—Saif hwn rhwng afonydd Rhymni a Thaf. Mae ei odre dwyreiniol yn cyrhaedd hyd Ystrad Mynach, a'i odre gorllewinol yn cyrhaedd hyd Bontypridd.

5. Mynydd Mayo sydd barhad o Fynydd Eglwysilan tua'r deau.

6. Mynydd Cefn On, Cefn y Carnau, &c., ydynt res o fryniau yn cyrhaedd o afon Rhymni, yn ardal Machen, hyd afon Taf, ger y Castell Coch. Mae'r holl fynyddau hyn rhwng afon Rhymni ac afon Taf.

7. Mynydd Aberdar, Mynydd Merthyr, a'r Cefn Glas.—Nid yw y rhai hyn mewn gwirionedd ond un mynydd, yn gorwedd rhwng afon Taf ac afon Cynon. Gelwir y parth mwyaf gogleddol o hono Mynydd Aberdar, y parth canol Mynydd Merthyr, a'r rhan ddeheuol Y Cefn Glas. Mae amryw garneddau ar y mynydd hwn, megys Carn-tylehir, Carn y Frwydr, Carn Gwenllian Dociar, Carn y Ffwlbert, &c. Agos uwchben y tunnel rhwng Merthyr ac Aberdar, sef ychydig yn fwy gogleddol, y mae adfeilion Caer neu wersyllfa, gyda ffos o'i hamgylch, yr hyn a brawf fod yma orsaf filwrol ryw gyfnod.

8. Cefn Rhos Gwawr, neu Fynydd Craig y Mynach, a orwedd rhwng afon Dar ac afon Aman, yn mhlwyf Aberdar, lle y gwelir rhan o'r heol oedd gan y mynachod gynt i deithio o Fynachlog Penrhys i Fynachdy Aberdar. Gelwir yr heol yn bresenol, Rhiw'r Mynach.

9. Mynydd Bach sydd glogwyn uchel rhwng afon Aman a blaen afon Cludach, yn mhlwyf Llanwynno.

10. Cefn Gwingil, neu Gwaungul, sydd fynydd uchel rhwng afon Cludach ac afon Rhondda Fach, plwyf Llanwynno.