Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11. Cefn Rhondda, rhwng y ddwy Rondda, yn mhlwyf Ystraddyfodwg.

12. Mynydd y Cymmer, a 13. Mynydd y Ddinas, ydynt ddau fynydd go uchel ar du gorllewinol afon Rhondda, yn agos i'r Cymmer.

14. Mynydd y Glyn a orwedd rhwng afon Taf ac afon Elai, ac a ymestyna i'r dwyrain i ardal Pontypridd. Craig y Fforest a Chraig y Maes Bach ydynt fath o barhad o'r mynydd hwn i waered ar du gorllewinol afon Taf, yn mhlwyf Llanilltyd Faerdref.

15. Mynydd y Garth, ar du gorllewinol y Taf, yn mhlwyf Pentyrch.

MYNYDDAU CANOLBARTHOL Y SIR.

16. Mynydd Garth Maelwg a saif rhwng Llantrisant a Llanharan. Mae ffynnon rinweddol iawn ar ben hwn, gyda thair carnedd fawr. Mynydd Meiros[1] sydd barhad o hwn tua'r gorllewin, tra y saif Mynydd y Pentref ar y gogledd-orllewinol iddo. Yma y tardd afon Ewenni.

17. Cefn Hirgoed sydd rhwng Ewenni a'r Ogwy, a bernir iddo fod unwaith yn orchuddiedig gan fforest fawr o goed.

18. Mynydd y Gaer, Mynydd Maendu, a Mynydd Gelli'r-haidd, ydynt res o fryniau uchel rhwng afon Elai a'r Ogwy Fach, ac fel yr awgryma enw'r blaenaf, y mae olion caer fawr ysgwar ar ei ben.

19. Mynydd y Gwyr, rhwng y ddwy Ogwy; ac ar ei du gogleddol y mae lluaws o fryniau uchel, gyda dwy garnedd neillduol a elwir Y Garn Fawr a'r Garn Fach, a bernir fod rhai o enwogion ein cenedl yn huno danynt.

20. Mynydd Llangeinor a saif fel tywysog urddasol, a'r Ogwy Fawr yn golchi ei odre dwyreiniol, a Nant Garw yn golchi ei odre gorllewinol.

21. Mynydd Pen Pych, yn agos i Flaen Rhondda, plwyf Ystraddyfodwg.

Hen foneddig fynyddau—yr Ystrad
Rwystrant y cymylau;
Ond Pen Pych sy'n topio'n pau,-
Ef yw'r uchaf ei freichiau.

22. Craig y Llyn, neu Fynydd Carn Moesen, sydd dalach nag un o fynyddau Morganwg. Saif yn mharth gogleddol plwyf Ystrad-dyfodwg, a'r Graig yn gwynebu tuag at randir Rhigos a Chwm Nedd. Mae natur wedi trefnu dau lyn grisialog wrth draed gorsedd greigiog yr ymherodres hon, y rhai ydynt fel dau ddrych iddi gael gweled ei llun ynddynt.

Crugyll uthr yw Craig y Llyn,—a bannog
Obenydd uwch dyffryn;
Tomen fawr,—uchel glawr glyn
Yw ei garw dal goryn.—D. M.

23. Mynydd Moelgiliau, rhwng y Garw-wy a'r Llyfnwy.

24. Mynydd Margam, yn mhlwyf Margam, ac y mae wedi ei wisgo

  1. Camlythyrenwyd hwn yn "Macres," yn nhudalen 4,