Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hardd â choed derw prydferth. Ar ei ben y mae careg hynod a elwir y Maen Llythyrog. (Gwel Hynodion y Sir.)

25. Craig Afan, Mynydd Bychan, Moel Trawsnant, a Chefn yr Argoed, ydynt res o fryniau ar y tu deheuol i afon Afan.

26. Mynydd Dinas, Mynydd y Gaer, Y Foel, Cefn Morfudd, a'r Cefn Mawr, ydynt bentwr o fynyddau wedi eu cadwyno wrth eu gilydd fel carcharorion rhwng afon Afan ac afon Nedd.

27. Cefn Crug a Mynydd Rhesolfen a orweddant fel gefeilliaid rhwng Cwm Corrwg a Chwm Nedd.

MYNYDDAU GORLLEWIN-BARTH Y SIR.

28. Cefn Hir Fynydd, rhwng y Nedd a'r Dulais. Gwnaeth y Rhufeiniaid heol dros gefn hwn o Gastell Nedd i Aberhonddu, yr hon a elwir Sarn Helen, ac y mae milldiroedd o honi yn amlwg yn awr.

29. Mynydd March Hywel, yn mhlwyf Cilbebyll, a'i ranau gogleddol rhwng y Dulais a'r Tawy, tra ei barth deheuol rhwng y Dulais a'r Clydach sy'n aberu ger Abbaty Nedd. Mae pedair carnedd fawr yn addurno pen hwn.

80. Mynydd Drumau, rhwng y Clydach a nodwyd ac afon Tawy. Ar ben hwn mae Careg hynod, a elwir y Gareg Bica.

31. Tarren Wyddon, ar du dwyreiniol afon Tawy, ger Ystalyfera. 32. Gallt y Grug, yn mhlwyf Llangiwc; ac y mae llawer o bentref Ystalyfera wedi ei adeiladu ar ei llechwedd.

33. Mynydd Gelli Wastad (plwyf Llangyfelach), Mynydd y Gwair, Mynydd y Garn Fach, Mynydd Pysgodlyn, a Chefn Drum, ydynt res o fryniau rhwng y Tawy a'r Llwchwr.

34. Mynydd Lliw, rhwng afon Lliw ac afon Llwchwr.

35. Mynydd y Garn Goch a Mynydd Cas'lwchwr, rhwng Llangyfelach a Chas'lwch wr.

36. Cefn y Bryn sydd fynydd bychan yn Mro Gwyr, ar ben yr hwn y mae Cromlech, a elwir Coeten Arthur, a Maen Cetti.

A ganlyn ddengys uchder y prif rai o'r mynyddau hyn mewn troedfeddi:

RHIF ENW UCHDER. RHIF ENW. UCHDER.
1 Craig y Llyn 1,971.00 12 Cefn Rhos Gwawr *1,257.
2 Mynydd Llangeinor 1,872.00 13 Gallt y Grug *1,175.
3 Y Garn Fawr 1,706.00 14 Tarren Wyddon *1,068.
4 Mynydd Merthyr 1,619.00 15 Mynydd Margam 1,129.00
5 Cefn Gelligaer (Carn y Bugail) 1,574.00 16 Y Foel (Cwmafan) *1,122.
6 Mynydd Aberdar 1,507.00 17 Mynydd y Garth 1,008.00
7 Cefn Merthyr 1,483.00 18 Mynydd Garth Maelwg *884.
8 Twyn y Waun *1,459. 19 Craig Llantrisant *555.
9 Mynydd Carn Celyn 1,382.00 20 Cefn On 850
10 Cefn Brithdir *1.278. 21 Penrhiw Fforest *760.
11 Mynydd Eglwysilan 1,259.00 22 Mynydd Cefn y Bryn 609

D.S.—Y rhai sydd a'r nôd hwn * wrthynt a fesurais fy hun â'r Barometer,