Tudalen:Hanes Morganwg (Dafydd Morganwg).djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. RHANIADAU SWYDDOGOL NEU AWDURDODEDIG Y SIR.

Rhenid Gwent gynt yn bump arglwyddiaeth, fel y canlyn:—1. Gwent Uwchcoed; 2. Gwent Iscoed; y rhai sydd yn Mynwy yn awr. 8. Gwentllwg, neu Gwaenllwg, sef Gwent Gorslyd, yn cynnwys y parth a elwir plwyf Gelligaer yn bresenol, gyda rhanau gorllewinol sir Fynwy. 4. Blaenau Gwent, sef holl fynydd-dir parthau gogleddol Mynwy a Morganwg yn bresenol. 5. Gorwennydd, neu Gor Went, sef y wlad rhwng afon Taf ac afon Nedd. Rhenid Gorwennydd hefyd yn ddwy ran, sef Uchaf ac Isaf; ac afon Ewenni yn eu gwahanu. Llygriad o Gorwennydd yw Gronedd y rhaniad Eglwysig. Mae lle yn awr yn mhlwyf Llandyfodwg, o'r enw Penllwyn Gwent; hyny yw, Prif Blanigfa Gwent; ac ystyrid y fan hon gynt yn Gorwennydd Uchaf. Mae plwyf Llysyfronnydd yn y parth a elwid Gorwennydd Isaf; a barnai D. Williams, awdwr "The History of Monmouthshire," mai llygriad yw'r enw o Lys Gorwennydd; ond pe buasai yr awdwr hwnw yn ystyried mai sant o'r enw Nudd a sylfaenodd Eglwys y plwyf hwnw, barnwyf y cydunasai mai Llys Bro Nudd yw'r enw iawn.

Gelwid parthau gorllewinol y Sir hon wrth yr enwau Gwyr a Bro Gwyr, fel y sylwyd yn barod. Ymddengys bod yr enwau, a'r rhaniadau hyn wedi ei gwneyd, cyn tiriad y Rhufeiniaid i'n gwlad. Ond wedi iddynt hwy gymmeryd meddiant o honi, darfu i'r Ymherawdwr Severus yn y flwyddyn 207 o.c., ranu Ynys Prydain yn ddosparthiadau; a'r enw a roddwyd ganddo ar Gymru oedd Britannia Secunda; a'r parth sydd yn cynnwys siroedd Morganwg, Mynwy, Brycheiniog, Maesyfed, Caerloyw, Henffordd, a rhanau o sir Gaerwrangon (Worcestershire), a enwyd ganddo yn Siluria, oddiwrth Essyllwg y Cymry.

Y rhaniad swyddogol nesaf ar Gymru ag y mae genym hanes am dano, a wnaed tua'r flwyddyn 877 o.c. gan Rodri Mawr, mab Merfyn Frych, yr hwn a'i rhanodd yn dair Talaeth, sef Gwynedd, Powys, a Deheubarth; ac a'u rhoddodd i'w dri mab, Anarawd, Merfyn, a Chadell. Yr oedd Morganwg hyd y nod y pryd hwnw, yn Dalaeth Annibynol, yn cael ei llywodraethu gan dywysog annibynol, ac wedi ei rhanu yn bedwar Cantref a phymtheg Cwmmwd, fel y canlyn:

I. CANTREF NEDD. II. CANTREF PENUCHEN. III CANTREF BREINIOL IV. CANTREF GWENTLLWG.
Cymmydau.

1. Rhwng Nedd a Thawy
2. Rhwng Nedd ac Afan
3. Tir yr Hwndrwd
4. Glyn Ogwy

Cymmydau.
1. Meisgun
2. Glyn Rhondda
3. Talyfan
4. Maenor Rhuthyn
Cymmydau.
1. Cibwrn
2. Senghenydd
3. Uwch Caeach
4. Is Caeach
Cymmydau.
1. Yr Ardd Ganol
2. Eithaf Dylogion
3. Yr Haith
4. Y Mynydd

Ychwanegwyd Cwmmwd y Mynydd at y pumtheg ereill, er mwyn cael pedwar Cwmmwd yn mhob Cantref.

Yn 945 o.c., gwnaed Rhaniad Awdurdodedig arall ar Gymru trwy orchymmyn y brenin Hywel Dda, yr hwn, medd haneswyr, a'i rhanodd yn siroedd, yr un fath ag y rhanodd Alfred Fawr deyrnas Lloegr.

Dywedir yn "Y Cwtta Cyfarwydd," a ysgrifenwyd gan Meurig, Trysorydd Llandaf, fod Morganwg yn amser y rhaniad hwnw yn Dalaeth Annibynol, ac ynddi saith Cantref, sef,-1. Cantref Bychan; 2. Can-