Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffraw y ddau gwmwd, Llifon a Malltraeth. Yng Nghantref Cemaes yr oedd cymydau Twr Celyn a Thal y Bolion. A chantref Rhos Fair a wneid i fyny o Gwmwd Menai, a Chwmwd Dindaethwy. Er nad ydyw y cantrefi a'r cymydau yn cael eu cyfrif yn yr oes hon fel dosbarthiadau i bwrpas llywodraeth wladol fel ag yr oeddynt yn yr oesoedd gynt, er hynny y mae y chwe' ddeoniaeth eglwysig yn Sir Fon yn dwyn enwau y chwe' chwmwd, ond, os nad ydwyf yn camgymeryd, nid ydyw terfynnau pob deoniaeth yn cyfateb yn hollol i ffiniau'r hen gymydau.

Fel y mae gwahanol lysoedd cyfreithiol yn awr, megis llys bach y dosbarth, neu Lys yr Ynadon, Llys Chwarterol, a Brawdlys, felly hefyd yr oedd gan yr hen Gymry Lys Cwmwd, Lys Cantref, a Llys Tywysog. Yn Aberffraw y cynhelid Llys Tywysog Gwynedd. Cynhelid yn Rhos Fair lys cantref a Llys Cwmwd Menai, lle y trinid achosion y Cwmwd a Chantref Rhos Fair, sef yr holl ddosbarth rhwng y Fenai a'r Falltraeth, neu Afon Cefni, o Abermenai i Benmon, ynghyd a rhannau bychain anghysylltiol o Gwmwd Menai, megis Rhoscolyn, Sybylltir, a lleoedd eraill. Ceir crybwylliad ychwanegol am "Lys" Rhos Fair ymhellach ymlaen.

1. SEFYLLFA DDAEARYDDOL NIWBWRCH,

Mae rhai pobl wedi bod yn ceisio lleihau yr enwogrwydd dyledus i Niwbwrch ar gyfrif ei sefyllfa gynt fel un o brif lysoedd neu drefi Môn, a hynny oherwydd ei chyflwr presennol, ac, fel y tybia rhai, oherwydd dinodedd y lle y saif; ac am hynny teflir llawer o amheuaeth ar ran beth bynnag o hanes Gwynedd o dan y tywysogion Cymreig.

Mae Beaumaris wedi bod yn enwog ers oesoedd lawer, ond nid fel Llys Cymreig. Yr oedd Ynys Môn bob amser yn agored i ymosodiadau y cenhedloedd o'r Gogledd, a'r Saeson mewn oesoedd mwy diweddar. Gororau Beaumaris a'r amgylchoedd oeddynt fannau gweinion Môn, ac yno y glaniai y gelynion yn aml