Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fi yn meddwl mai i gyfeiriad Tyn Rallt, ac yna heibio'r hen Dy'n y Cae, yr oedd y terfyn yn cyfeirio rhwng y Maen Llwyd a'r Plas uchaf.

Os oedd Ysgubor y Person yr un â'r hen Ysgubor Ddegwm, y mae y disgrifiad-"amgylchu Cerrig y Gwydd i Ysgubor y Person"—yn dywyll i mi, oblegid y mae gryn ffordd rhwng yr Hen Ysgubor Ddegwm a therfyn y plwyf yn nhir Clynnog.

Ond er gwaethaf yr ychydig dywyllni a'r bylchau sydd yn y disgrifiad o'r ffiniau, y mae'n eglur fod y tiroedd a elwid gynt yn Hendre Rhosyr yn gorwedd i'r gorllewin a'r de-orllewin o'r pentref, ac yn cyrraedd o'r Tyddyn, heibio i'r Hendre' Fawr, Ty'n y coed, Ty'n y cae, Rhedyn Coch, Cefn Bychan, a thyddynod eraill, hyd Fryn Madog. Ymddengys fod y Frondeg hefyd tuallan i ffiniau y Fwrdeisdref.

Fel y sylwyd eisoes yr oedd perchenogion a deiliaid rhai maerdrefi oedd tu allan i derfynau plwyf Niwbwrch yn rhwym i dalu gwriogaeth i'r Tywysog yn Llys Hendre Rhosyr. Ac heblaw y pethau a nodwyd o'r blaen yr oeddynt (fel y dywedir am etifeddion Tre Bill, neu Glan y Morfa) "i dalu gwriogaeth i Felin Rhosyr ynghyda maenorwaith (fel ei gelwid) a thalion cylchau march a rhaglot, gan dalu am bob relief ddeg swllt, a'r un faint am amobr."

Yn gyffelyb, dywedir am dir-ddeiliaid Tre Garwedd—sef y gyfran o'r Rhandir a ymestyn o Lon Dugoed i Grochon Caffo-"y rhai oeddynt yn rhwym i dalu i'r trysordŷ brenhinol bum swllt a phum ceiniog bob tri

Ac ymhellach,—"yr oedd holl dir-ddeiliaid y drefgordd hon yn rhwym i gymeryd eu cylch ym Melin Rhoshir, i gyflawni gwasanaeth maenorawl," ac i dalu dirwyon yr un fath ag etifeddion Tre Bill.

5. SEFYLLFA RHOSYR AR OL Y GORESGYNIAD YN AMSER EDWARD I

Gan fod y lle yn faenor perthynol i'r Tywysog Cymreig, syrthiodd i afael y brenin ar ol i Gymru golli ei hanibyniaeth, ond nid yw yn ymddangos i un o'r