Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dinystriwyd breichiau a thiroedd eraill, ac yr anrheithiwyd Llanddwyn ar hannau o Niwbwrch. Os difrodwyd cymaint, ac os y lledodd dylanwad y tywod mor bell, mewn un oes yn ein dyddiau ni, pa faint a anrheithiwyd ynghorph y pum can mlynedd diweddaf!

Ond er fod dynion yr oes hon wedi bod yn llygaddystion o ddifrod mawr, eto y mae llawer o bethau yn profi fod rhyw luwchfeydd mwy dychrynllyd o lawer wedi bod ryw flynyddoedd yn ol. Edrycher ar leiniau a gerddi Niwbwrch, yn enwedig rhai yr ochr ddeorllewinol, a cheir gweled fel y maent mor uchel o'u cymharu â lefel y ffyrdd. Mewn rhai achosion bu i'r trigolion gario trwch mawr o dywod oddiar wyneb eu gerddi er mwyn dyfod at y pridd cynhenid a gyfansoddai dir y gefnen hyd Landdwyn; ac mewn un amgylchiad beth bynnag wrth drolio y tywod o ardd darganfuwyd pydew genau yr hwn oedd lawer o fodfeddi islaw yr arwyneb oedd wedi ei godi gan y tywod. Nid oedd neb yn gwybod dim fod yr hyn sydd mor werthfawr a bendithiol i bentref ar gefnen lled uchel, yn orchuddiedig ar hyd y blynyddoedd gan gaenen drwchus o dywod yngardd tŷ a elwir Coedana.

Hefyd yn Heol Malltraeth, yn agos i'r Plas uchaf, y mae tŷ o'r enw Pen y Bonc, a alwyd felly oherwydd fod gynt bonc fawr o dywod yn y cae y saif y ty arno. Efallai mai nid y storm a grynhodd y tywod i'r man hwnnw, ond mai y trigolion wrth glirio 'r ffyrdd a gludasant y tywod yno. Mae'r tywod wedi ei chwalu, a'r cae wedi ei wneud yn wastad, ers blynyddoedd; ond yr oedd pobl yr oes o'r blaen yn cofio fel y byddai 'r plant yn chwareu ar y bonc dywod.

Etto, y mae Rowlands yr hwn a ysgrifennai ddau can mlynedd yn ol yn disgrifio helbulon Niwbwrch ddau can mlynedd cyn ei amser yntau: "Ac er ceisio attal hynny, (hynny yw, lledaeniad y tywod) fe roddwyd cyhoeddiad allan yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth yn gwahardd dan boen dirwyon mawrion i neb ddryllio y bryniau tywod a orweddant o'r tu cefn i'r dref, trwy dorri y morhesg a ddefnyddir i wneud