Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hesg o fan i fan i'w gwerthu, yn arferiad cyffredin iawn yn nechreu y ganrif hon, a llawer o'r dynion yn dilyn yr alwedigaeth honno.

Ond er fod yno lawer iawn o dlodi, ac (oherwydd hynny yn bennaf) lawer o afreoleidd-dra, etto yr oedd yno yn y cyfnod tywyllaf deuluoedd uwchraddol fel pobl anibynnol a chrefyddol eu tueddiadau, ac felly yn ddiwyd a gonest ymhob peth, fel pe buasent o anian wahanol i rai o'u cymydogion, neu fel pe buasent wedi eu trwytho yn syniadau, arferion, a thueddiadau yr hen fwrdeisiaid gynt ag oedd wedi dyrchafu Niwbwrch mor uchel yn y canoloesoedd. Yn wir, y mae Rowlands yn rhannu trigolion Niwbwrch yn yr hen amser i dri dosbarth sef tyddynwyr rhydd-ddaliadol Hendref Rhosyr, a'r ddau ddosbarth oedd yn y faenor gaeth ac wedi hynny yn y fwrdeisdref rydd. Gallwn ninnau yn yr oes yma ddychymygu am y trigolion presennol, fod y tri dosbarth uchod yn cael eu cynrychioli ganddynt. Yr hyn lleiaf gellid cysylltu rhai o'r trigolion a'r hen dyddynwyr; eraill â'r hen grefftwyr a llawer eraill â'r dosbarth isaf oedd yno gynt. Y mae rhai o'r naill ddosbarth wedi ymbriodi i ddosbarth arall; a rhai o ddosbarth isel wedi llwyddo i ddringo i un uwch; ond gall y sylwedydd cyfarwydd yn hanes yr hen deuluoedd bwyntio at arwyddion o'r gwahaniaeth oedd fwy amlwg gynt nag yn bresennol.

11.—YR ADFYWIAD CREFYDDOL

Nid gwaith difyr ydyw ysgrifenu hanes dadfeiliad. Arwydd o ddirywiad moesol mewn pobl ydyw eu hymddygiad yn llawenhau ynghwymp, ac ymbleseru yn nynoethi gwendidau cymydogion anffortunus. Cafodd rhai teuluoedd eu bedyddio â bedydd alltudiaeth cyn i arferion drwg gael eu chwynnu o'r lle; ond ni ddylid gosod eu cywilydd ar ysgwyddau, nac wrth ddrysau, y sawl na phechasant yn ol cyffelybiaeth eu camwedd; ac ni ddylid codi cyrph o'u beddau er mwyn i'r arogl greu rhagfarn yn erbyn ardal.

Yr wyf fi yn y bennod hon amgeisio dangos Niw-