Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwrch yn ei chymeriad uwchaf, sef rhoi hanes y bedydd a olchodd frychau lawer oddiar wyneb yr hen fwrdeisdref, yr hon a daflesid yma ac acw, ac ymhell tua thueddau anwareidd-dra mawr.

Nid ydwyf am fanylu dim ar hanes yr Adfywiad Crefyddol yn y ffurf a gymerodd, oblegid y mae 'n hawdd syrthio i brofedigaeth wrth sôn am grefydd, neu yn hytrach wrth feirniadu agweddion neu y ffurfiau a'r rhai y gwisgir crefydd gan ddynion.

Un peth ynglŷn â'r Adfywiad Methodistaidd yn y parth yma o Gwmwd Menai i dynnu sylw dyn diduedd, ydyw y lle amlwg yr oedd Niwbwrch yn ei gymeryd o'r dechreu fel canolbwynt y symudiad. Yma y dechreuodd gyntaf, a Niwbwrch a adeiladodd y capel cyntaf, yn y rhanbarth. Nid am fod y plwyf yn gyfoethoccach na'r plwyfi cymydogaethol, (yr oedd ymhell yn y cyfeiriad gwrth gyferbyniol);-nid am fod safle Niwbwrch yn fwy canolog na Dwyran neu Langaffo, (gallasai y lleoedd hynny fod yn hwylusach ar lawer cyfrif);—ac nid chwaith am fod yno fwy o grefyddwyr, y bu i Niwbwrch gymeryd y flaenoriaeth am lawer o flynyddoedd. Ond, (a chydnabod o hyd y gallaf fod yn camgymeryd) byddaf fi yn meddwl fod y plwyfi agosaf heb anghofio y pryd hynny, fel y gwnaethant yn fwy diweddar, mai Niwbwrch oedd prif dref y Cwmwd, ac mai hi fel y cyfryw oedd i fod y prif gyrchfan ynglŷn â symudiad crefyddol, yr un modd ag ynglyn ag achosion gwladol y Cwmwd yn yr hen amser. Ac heblaw hynny, y mae'n bosibl fod lle fel Niwbwrch ag oedd wedi ymgynefino cymaint â gweithrediadau bwrdeisiol ar hyd y blynyddoedd, wedi dysgu egwyddorion llywodraeth leol, ac wedi dwyn i fyny ddynion hyddysg yn rheolau trefnidaeth. Mae yn beth addefedig—fod deheurwydd gyda threfniant yn llawn mor angenrheidiol ynglyn â'r peiriant allanol ag ydyw zel ac ymroddiad fel elfenau mewnol

12.—YR ADFYWIAD CYMDEITHASOL

Y mae Niwbwrch wedi myned trwy lawer o gyfnewid-