Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn flaenorol. Methai yr hen wr ei dad a dirnad y modd yr oedd yn bosibl i neb fyned i borthladd nad ymwelsai ag ef o'r blaen. Ni soniai ddim am ystormydd y weilgi fawr, nac am dwymyn a geri y gwledydd poethion; ond y cwestiwn gor-bwysig a'i dyrysai oedd hwn: "Robert, sut y medri di'r ffordd yno, dywed?"

Os aeth Hughes yn gyflym i ben hwylbren anrhydedd, efe a ddechreuodd yn fuan y fordaith olaf i'r porthladd pell o'r lle nid oes neb yn dychwelyd. Ymosodwyd arno gan afiechyd creulon o'r hwn y bu farw yn ddyn cydmarol ieuangc, gan adael gweddw a phedwar neu bump o blant bychain mewn galar dirfawr.

Pa faint bynnag o les a ddeilliodd i Niwbwrch o'r addysg a dderbyniodd ieuenctid y lle yn ysgolion Llangeinwen a Dwyran; a pha faint bynnag ddylanwadodd Mr. Owen a Cadben Jones ar forwriaeth y lle trwy hyfforddi y bechgyn a rhoddi lle iddynt fel morwyr a swyddogion ar eu llongau, y mae'n ddiameu i Hughes trwy ei esiampl dynnu llawer o fechgyn ar ei ol, ac agoryd drws i blant Niwbwrch fel ag i'w gwneud yn bosibl iddynt ddirnad y ffordd y gallai bachgen gwerinwr o un o'r mangreoedd mwyaf gwerinol yng Nghymru ymgystadlu yn llwyddiannus â morwyr porthladdoedd a lleoedd mwy manteisiol i'r ymrysonwyr na'r hen bentref tlawd yn Sir Fôn. Erbyn heddyw nid oes un man yng Nghymru a all ymgystadlu â Niwbwrch fel magwrfa cynifer o forwyr mewn cyfartaledd i'r boblogaeth; nid oes un lle yn y wlad a all ddangos cynifer o swyddogion mewn cyfartaledd i nifer ei forwyr cyffredin; ac ni all un lle arall ymffrostio mewn cyf. artaledd mor uchel o swyddogion llwyddiannus a rhai mewn lleoedd sefydlog.

Yr wyf wedi gwneud ymchwiliad lled fanwl, a thrwy gynhorthwy cyfeillion cymwynasgar wedi casglu enwau y swyddogion hynny a fuont, ac hefyd y rhai sydd, fel cadwyn hardd yn cysylltu Niwbwrch a morwriaeth o ddechreu 'r adfywiad hyd y flwyddyn hon. (1894.) Dymunwn blethu torch o gydymdeimlad a theuluoedd