Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae 'n haws canu bygythion na dwyn ein hunain i gyflawni ein dyledswyddau. Byddai 'n well i bawb geisio cydymffurfio â'r byd fel y mae nes ei ddiwygio mewn ffordd gyfreithlon, na cheisio osgoi gwyliadwriaeth deddf a dwyn ein hunain i helbul. Shôn dlawd, aeth ef i drybini a helbul alltud; a diweddodd ei oes yn y tlotty.

Ysgrifenais yr uchod i ddangos yr ochr dywyll. Yn awr ceisiaf ddangos y modd y daeth yr adfywiad amaethyddol.

Rai ugeiniau o flynyddoedd yn ol daeth i Niwbwrch o Sir Ddinbych wr dieithr a adwaenid wrth yr enw Abram. Mae 'n debyg mai ei enw bedydd oedd hwn. Dywedir fod ganddo ychydig arian; ac mewn ardal dlawd ac mewn cyfnod pryd yr oedd arian yn brin, ystyrid ef yn ddyn cyfoethog. Yr oedd yn bur hawdd i ddyn felly gael digon o ffermydd yr adeg honno, oblegid yr oedd yn gyfnod hollol wahanol i'n hoes ni, gan fod mwy o lawer o ffermydd y pryd hynny nag o ddynion a dybient eu hunain yn amaethwyr.

Risiart Abram, Cefn Mawr Uchaf, oedd un mab i'r gwr y cyfeirir ato uchod; a Shôn Abram, Cefn Bychan, oedd fab arall iddo; a Sian Abram, Ty Lawr, (a foddodd yn nhrychineb cwch Abermenai) oedd ei ferch. Yr wyf yn deall i'r teulu yma roddi peth adfywiad yn amaethyddiaeth Niwbwrch, ond nid llawer o welliant yn y drefn o amaethu. Yr oedd y gwelliant hwn i ddilyn mewn oes ddiweddarach.

Ychydig dros drigain mlynedd yn ol daeth Morris Jones, Caeau Brychion, i'r plwyf. Yr oedd hwn yn un o'r dynion mwyaf anturiaethus, ac yn amaethwr deallus a phrofiadol. Yr oedd yn deall ansawdd tir ac yn medru rhoi bywyd yn y tir a gyfrifid yn rhy wael i ad-dalu dim o'r costau a roddid arno.

Dirgelwch cryfder Morris Jones oedd ei synwyr cyffredin mawr a'i benderfyniad yr hyn a'i galluogodd i orchfygu yr holl rwystrau a'i bygythiai wrth iddo gyfaddasu celfyddid ddiweddar i gydweithio â deddfau natur, pan oedd hen arferion a holl draddodiadau y lle