yn y ddeunawfed ganrif. Y mae'n sicr fod yr awelon ysbrydol yn chwythu y marworyn bychan yn fflam yn Niwbwrch yn fuan ar ol cychwyniad y gwaith da yn y Deheudir tua 1740-50. Tua'r adeg yr oedd y swn yn nyffryn claddedigaeth yn treiddio o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, yr oedd Eglwys blwyfol Niwbwrch yn myned o dan ryw fath o adgyweiriad. Ar adegau felly byddai y gwasanaethau crefyddol yn cael eu hesgeuluso, oherwydd diffyg lle i'r holl blwyfolion gydgynnull i addoli. Ond yr oedd yn byw yn Ty'n Rallt (amaethdý cyfagos i'r Eglwys) un Shôn Dafydd, gwr crefyddol ac eglwyswr dylanwadol. Pan oedd drysau'r Eglwys yn gauedig am y rheswm a nodwyd, cynhaliai Shon Dafydd gyfarfodydd crefyddol yn ei dŷ, a'r cyfarfodydd hynny, fel rhai cyffelyb mewn cannoedd o fannau, a ffurfiasant gnewyllyn y peirianwaith mawr a dyfodd mewn amser diweddarach i fod yn un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf dylanwadel yng Nghymru.
Bu cynnydd y mudiad yn Niwbwrch yn dra chyflym canys er fod y lle yn dlawd ac megis o'r neilltu adeiladwyd yma y capel cyntaf yn yr amgylchoedd hyn. Mewn pennod arall rhoddais resymau eraill i geisio profi y gallasai hen enwogrwydd bwrdeisiol Niwbwrch i ryw fesur ddylanwadu ar Fethodistiaid y rhan yma o'r Cwmwd i adeiladu eu capel cyntaf yn y dreflan hon. Ond os gallwn sylfaenu opiniwn mewn perthynas i gymeriad yr hynafiaid yn Niwbwrch fel arweinwyr blaenllaw a hunanymwadol, ar weithgarwch penderfyniad a'r ysbryd cydymgeisiol ag sydd yn nodweddu eu disgynyddion gallwn bron fod yn sicr i'r capel cyntaf gael ei adeiladu yma oherwydd fod y trigolion yn amlwg yn eu zêl grefyddol wresog; ac efallai eu bod yn dangos parodrwydd mawr i aberthu llawer er mwyn cadw i fyny gymeriad da hen brif dref y Cwmwd. Adeiladwyd y capel yn 1785, yr un flwyddyn ag y digwyddodd trychineb cwch Abermenai.
Adgyweiriwyd neu ail-adeiladwyd y capel ddwywaith yng nghorph y pymtheng mlynedd ar hugain diweddaf; ac heblaw hynny y mae gwelliantau ac