Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/8

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

AT Y DARLLENYDD. Er mai gyda llawer o betrusder a phryder mawr yr anfonir y llyfryn bychan hwn i blith cynhyrchion cyhoeddedig llenorion Cymreig, eto hyderir y bydd i'r nodion, y sylwadau, a'r casgliadau ddifyrru, dyddori, a goleuo y dosbarth hwnnw o ddarllenwyr ag sy'n caru ymbleseru ychydig yn nyffrynoedd hynafiaeth, yn gweled gwerth yn y pethau bychain, ac yn chwenychu cadw i fyny goffadwriaeth y tadau y rhai a osodasant i lawr sylfeini y cysuron presennol, ac a bauasant hadau dyrchafiad cymdeithasol yn Niwbwrch. Ymdrechwyd portreadu y gwahanol gyfnewidiadau yr aeth yr hen faenor drwyddynt o'r canoloesoedd tywyll i'n dyddiau ni; ceisiwyd dangos Niwbwrch yn ei pherthynas a'r symudiadau cymdeithasol a gwleidyddol a gynhyrfent Môn o ddyddiau Harri VIII. i deyrnasiad Sior II., ac eglurwyd achosion y dyrchafiad mawr diweddar ag sydd wedi hynodi yr hen dreflan mewn mwy nag un ystyr. Os y digwydd i'r darllenydd gael gronyn bychan o'r pleser mawr a gafodd casglydd y nodion wrth loffa yn y gwahanol feusydd, ni fydd yr anturiaeth yn ddi-fudd. Treuliwyd llawer o flynyddoedd i gasglu y crynswth defnyddiau y rhai fuont gynorthwyon i gyfansoddi y llyfr. Darllerwyd llawer o lyfrau ; gwnaed amrywiol ymchwi- liadau ; ac ymdrechwyd ffurfio dolennau i gysylltu y gwasgaredig, a phontydd i groesi y rhwystrau, fel ag i wneud y cyfan yn rhyw fath o hanes helyntion Siwbwrch yn yr oesau diweddar.

Mae fy nghynorthwywyr o bob gradd a dosbarth yn rhy liosog i'w henwi yma, am hynny yr wyf ar imwaith cydnabod fy rhwymedigaethau iddynt oll, --i'r rhai a'm cynothwyasant â defnyddiau, ac yn enwedig i'r rhai a roisant gynghorion gwerthfawr i mi ac a estynasant gymorth sylweddol fel tanysgrifwyr, ymhell uwchlaw fy nisgwyliadau.