enwau hen amaethdai plwyf Llanddwyn (ond yn awr yn bonciau tywod) ydyw Y Fuches, Cerrig Gwladus, Bryn-Llwyd, Bryn Ysgawen, Penrhos, a Cherrig Duon neu Deon. Ar un adeg Deon Bangor oedd Prebendari Llanddwyn. Gwr enwog oedd y Deon Du, sef Risiart Cyffin, yr hwn a gymerodd ran amlwg a blaenllaw yn nyrchafiad Harri VII, i'r orsedd yn 1485.
Yr oedd Ffynnon Dwynwen Santes yn enwog fel cysegr-fan cariadau y rhai a offryment roddion yma er mwyn cael rhwyddineb yn y llwybrau dyrys a dieithr hynny y mae ieuengctid yn eu troedio cyn priodi. Yr wyf yn casglu y byddai y partion dyweddiedig yn torri prif lythyrenau eu henwau yn y dywarchen lâs a orchuddiai ochrau a chopa Craig Esyth, lle y saif y Goleudŷ arno yn awr.
Ar ol dadgorphoriad y priordai yn nheyrnasiad Harri VIII., daeth y plwyf i feddiant teulu Bodowen; ac yn ddilynol i orchuddiad Llanddwyn gan dywod gwnaed y plwyf yn Gwning-gaer Fawr,(rabbit warren).
Ty yn gysylltiol â'r etifeddiaeth yma, fel yr wyf yn casglu, oedd y Plas Newydd yn Heol Pendref, oherwydd dywed Rowlands fod Gibbon Owen, brawd i Lewis Owen, Frondeg, yn byw yn Niwbwrch. Daeth etifeddiaethau Bodowen i feddiant Arglwydd Dinorben yr hwn a arferai osod y Gwning-gaer Fawr i'w ddeiliad (tenant) fyddai yu byw yn Plas Newydd ac yn dal Brynhowydd.
Pan werthwyd yr etifeddiaeth gan yr Anrh. R. Hughes, Kinmel, Arglwydd Raglaw Sir Fflint, etifedd Arglwydd Dinorben, prynwyd y Gwning-gaer Fawr gan y Parch. H. Prichard, Dinam Hall, Llangaffo. Mae'r penrhyn, ynys, neu orynys, a adnabyddir yn awr wrth yr enw Llanddwyn, yn aros o hyd ym meddiant Mr. Hughes, Kinmel. Mae rhannau o furiau yr hen eglwys yno yn aros fel tyst i dduwioldeb yr hynafiaid.
Canodd Lewis Glyn Cothi fel hyn,
"Ynys Von yw fy ennaint,
Ynys yw hiliawn o saint;
Ynys Colchos wrth Rossyr,
Ynys Roeg yn sirio gwyr."