Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholwyr Niwbwrch fyned i Beaumaris gan hyderu y caent fwynhau yr un breintiau ag etholwyr bwrdeisiol y dref honno, ond siomwyd hwy mewn rhan oblegid i Owen Hughes. Ysw, y Bwrdais a bleidient, gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Digwyddodd hynny yn 1698. Dim ond deg ar hugain o etholwyr o Niwbwrch! ymhlith y rhai yr oedd llawer o dirfeddianwyr a hawlient bleidlais oherwydd gwerth y tai a adeiladasent yn Niwbwrch i geisio addasu eu hunain fel bwrdeisiaid. oedd rhai o'r deg ar hugain yn hen drigolion arosol yn Niwbwrch, ac yn ddisgynyddion i'r hen fwrdeisiaid gynt? Pwy a ettyb gwestiwn fel hyn a rhai eraill a ymwthiant yn barhaus i ogleisio ein cywreinrwydd?

Os disgynwn o niwl a thywyllwch ansicrwydd ac anwybodaeth sydd yn aros ynglyn a hanes Niwbwrch yn y gorphenol, ac os cymharwn ffeithiau yr oes hon â'r hyn wyddom am Niwbwrch yn yr hen amser gynt, yr ydym o hyd yn cyfarfod â phrofion o'r dyrchafiad cymdeithasol ag sydd mor amlwg ynglyn â Niwbwrch. Y mae'n rhaid cyfaddef mai yn yr eilfed ganrif ar bymtheg a chyn hynny yr oedd y cewri yn gosod i lawr seiliau duwinyddiaeth ein hoes ni ac yr oedd duwioldeb personau yn ymddangos mewn ffrwyth hunanymwadiad a gweithredoedd da pan oedd gwladgarwyr a dyngarwyr yn cyfrannu o'u heiddo personol tuag at sefydlu ysgolion, sefydliadau elusenol, a llawer o foddion eraill i ddyrchafu. Ond yn ein dyddiau ni y mae y werin megis yn esgyn i afael yn y breintiau dinesig ag oeddynt gyfyngedig i dirfeddianwyr mawrion ac urddasolion ddau can mlynedd yn ol. Nid oes ond ychydig o dirfeddianwyr yn byw tuallan i'r plwyf yn hawlio pleidlais seneddol ar bwys eu heiddo yn Niwbwrch,— dim ond tua dwsin; ond er hyn y mae 'r etholwyr yno i'w cyfrif wrth yr ugeiniau. Y mae yno etholwyr o'r dosbarth cyntaf (occupation voters), sef etholwyr seneddol a sirol, 150; o'r ail ddosbarth 4; a 27 o'r trydydd dosbarth. Y mae tua deugain o'r preswylwyr yn rhydd-ddeiliaid fel perchenogion tai neu ryw gyfran o dir.