Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes, gynt o'r Ffactri; a hen gynghorwr o'r enw R. Jones (Methodistiaid Calfinaidd); a Roberts, gyda 'r Bedyddwyr, ac O. J. Roberts gyda 'r Anibynwyr.

Cynhaliwyd eisteddfodau yma yn 1842 a 1877. Yn yr eisteddfod gyntaf yr oedd dau fardd lleol Huw Prisiart, Tu hwnt i'r deyrnas, a Bardd Du Môn yn fuddugwyr. Yr oedd yma ryw gerddor neu gantor bob amser, ond neb tebyg i W. Hughes, Ty'n y Goeden. Yr oedd tân cerddoriaeth yn oleu a gwresog ar allor ei aelwyd pan oedd cerddorion eraill mor ddistaw a'r gôg yn y Gauaf. Cerddor zelog arall oedd W. Williams, Ty'n y gate, ac un medrus iawn os ystyrir ei anfanteision. Mae mantell yr hen gerddorion ar ysgwyddau olynwyr medrus fel hyfforddwyr côrau llwyddiannus mewn ymrysonfeydd cerddorol. Y blaenaf ymhlith y cyfryw ydyw Josiah Hughes, Ty'n y goeden.

Yr oedd yma hen grythor o'r enw Morgan yn nechreu'r ganrif. Nis gallaf ddweyd dim o'i hanes. Crythor da a fagwyd yma oedd y diweddar Petr Môn. Cyfansoddodd Petr rai caneuon.

Taener geir-da pawb yn ol eu gwir deilyngdod.