RHAGYMADRODD.
YSGRIFENWYD y Traethawd hwn ar gyfer "Ail Eisteddfod Chwarelau Mr. Oakeley," Hydref, 1880, yn yr hon y dyfarnwyd ef yn fuddugol, ac yn deilwng o'r wobr-deg gini-cyflwynedig gan W. E. Oakeley, Ysw., Tanybwlch, a R. Rowland, Ysw., North and South Wales Bank, a chyflwynir ef gyda sylwadau y ddau feirniad (Y Parch. Owen Jones, F.S.A., Llandudno, a R. Rowland, Ysw.), arno i'r darllenydd.
Dymunaf gydnabod gyda diolchgarwch y cynorthwy a gefais yn y gwaith hwn gan y personau canlynol :-E. P. Jones, Ysw. Cefn y Maes, yr hwn, yn ychwanegol at roddi gwasanaeth ei Lyfrgell Hynafiaethol, a roddes amryw gyfarwyddiadau a fuant o werth i mi; Y Parch. R. Killin, Rector Ffestiniog, am ei barod- rwydd yn caniatau i mi ddefnyddio Llyfrau Cofrestr Ffestiniog a Maentwrog, yn gystal a chynwys “Cîst y Plwyf;" W. E. Oake- ley, Ysw., am Achau ac Ysgriflyfr Tanybwlch; S. Holland, Ysw., A.S., am amrywiol bapyrau ac adgofion ; a Mri. Griffith Davies, gynt o Gynfal, a John Williams, Pant Mriog, am eu hadgofion o'r hen drigolion, heblaw amryw eraill y gwnaethum ddefnydd o'u gweithiau, &c., ac a gydnabyddir yn nghorph y gwaith.
Yr oeddwn yn bwriadu ychwanegu amryw ddarluniau at y rhai sydd yn y Traethawd, ond y mae y draul eisoes yn fawr, ac yn fwy nag y gallaswn ymgymeryd â hi, oni buasai am y cynorthwy a roddir i mi gan foneddwr yn y plwyf. Ychwanegwyd rhai pethau ato ar ol y Gystadleuaeth a ddigwyddasant tra bu yn y wasg, yn gystal a'r "Daflen Gydmarol o ddisgyniad y Gwlaw," &c., a welir yn niwedd y llyfr, am ddefnyddiau pa un yr ydwyf yn ddyledus i Mr. Owen Jones, Chwarel Ganol Mr. Oakeley.