"Y mae y Cyfansoddiad hwn yn llawer meithach nag hyd yn nod eiddo ei gydymgeisydd. Y llawysgrif yn profi mai nid newyddian yn y gwaith o ysgrifenu ydyw yr Awdwr, yr iaith yn gywir a darllenadwy, yr arddull drwyddo yn bob peth y gallesid ei ddymuno. Y mae hefyd wedi ychwanegu yn ddirfawr at werth y Traethawd trwy ein hanrhegu map gwir dda o'r plwyf, yn nghyda sketch, sef amlinelliad cywir o'r mynyddoedd sydd yn ei amgylchu, a darluniau o'r fath gywiraf o hen balasdai y plwyf, a'r arf-beisiau perthynol i'w perchenogion cyntefig. Ac yn ddiau y mae y darlun o Domen-y-mur, Amphitheatre a'r Court, yn nghyda'r argraffiadau ar rai o'r ceryg, uwchlaw dim y gallasem ei ddisgwyl mewn gwaith o'r fath hwn. Cawn ganddo achresau cyflawn, wedi eu gweithio yn y modd mwyaf cywrain o hen deuluoedd y plwyf, megys Tanybwlch, Dol y Moch, Pengwern, Plas Meini, &c. Dechreua yr Awdwr hwn ei gyfansoddiad gyda phenod ar ddaearyddiaeth y plwyf, yna cymera olwg ar ei hanes yn y cyfnodau Cyn-Rufeinaidd a'r Rhufeinaidd. Dengys gydnabyddiaeth drwyadl a'r ffeithiau pwysicaf mewn cysylltiad a'n plwyf yn y ddau gyfnod uchod. Wedi hyny ceir ganddo gyda manylwch a chywirdeb hanes teyrnasiad y tywysogion Cymreig, ac oddiyno hyd y rhyfel cartrefol. Penod arall yn llawn dyddordeb i ni yw yr un am hen drigolion y plwyf, yr hyn mewn gwirionedd a'n cymhellodd gryfaf i awgrymu y testyn hwn. Nid hawdd credu nad oedd yn y plwyf poblog hwn ond tua 450 of drigolion yn y flwyddyn 1705, ac ond tua 750 yn y flwyddyn gyntaf o'r ganrif hon. Wedi rhoddi yn gryno hanes y rheilffyrdd, &c., cawn ganddo benod ar faterion plwyfol, addysg a chrefydd yn y plwyf. Y mae ganddo ar y pen-ranau uchod, flasus-fwyd o'r fath a gâr yr hynafieithydd. Yn olaf, cawn benod ar enwogion y plwyf. Dyma y benod fwyaf anghyflawn ac anorphenol yn y Traethawd oll, a hawdd fuasai casglu, pe na ddywedasai yr Awdwr fod amser anfoniad y cyfansoddiadau i law wedi ei ddal cyn iddo orphen.[1] Y mae ynddo ychydig o wallau eraill nad ydynt ond dibwys ac anaml. Nid oes yr un petrusder ynwyf i ddweyd mai hwn yw y goreu o lawer ar eiddo Ffestiniogydd, ac ni phetruswn ei farnu yn deilwng o'r wobr, a hyderwn y gwelir ef wedi ei ddwyn drwy y wasg yn Gymraeg a Saesneg, yna bydd genym drysor nad oes ond ychydig, os oes rhai o'r plwyfi yn ei feddu, sef hanes cyflawn a chryno o'n plwyf.
Yr eiddoch yn gywir,
R. ROWLAND."
- ↑ Teg yw hysbysu nad ychwanegwyd at y benod hon, ond y Parchedigion R. Parry, a G. Williams, y rhai a fuont feirw tra bu y Traethawd yn y wasg.