Rhagymadrodd
TEIMLA pawb awyddfryd i gael gwybodaeth am gartrefleoedd eu teidiau. O dan ddylanwad y teimlad hwn, cynnygiodd J. E. Rogers, Ysw., Abermeurig, i Bwyllgor Eisteddfod fawr Llandyssul, 1894, wobr o £5 5s. Oc. am "Hanes Plwyf Llandyssul," a derbyniwyd ei gynnyg gyda diolchgarwch. Dywedodd y Beirniad (Mr. J. Gwenogfryn Evans, M.A., Rhydychen,) nad oedd ganddo y petrusder lleiaf i ddyfarnu'r Traethawd hwn yn deilwng o'r wobr. Oddiar yr Eisteddfod, yr ydys wedi ychwanegu a chaboli llawer arno. Yr ydym wedi gwneyd ein goreu i reddi hanes cywir am y plwyf enwog hwn. Gellir dibynu ar gywirdeb "Iaith y Plwyf" yn y ddegfed Benod, ob'egyd y mae pob gair a ddefnyddir wedi pasio trwy enau hen bobl anllythyrenog a dreuliasant eu hoes yina. Pan y seinir unrhyw air mewn dwy ffordd, megis betu, boti, arwdd, arwydd, §., rhoddir y ddwy ffurf. Temlwn yn ddiolchgar iawn am y cynnorthwy parod a gawsom gan bawb er dwyn allan y llyfr.
Dywedir nad yw hanes Cymru wedi ei ysgrifenu etto, ac nas gellir ei wneyd hyd nes yr ysgrifenir hanes gwahanol blwyfi a threfydd ein gwlad. Os gwir hyn, hyderwn y bydd y gyfrol hon, er gwaethaf ei diffygion, yn gam bychan i hyrwyddo dygiad allan hanes delfrydol ein gwlad.
- Llandyssul,
- Calan Mai, 1896.
- Llandyssul,