Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES PLWYF LLANDYSSUL.

PENNOD I.

DAEARYDDIAETH Y PLWYF.

DEILLIA adbarth, plwyf a phentre Llandyssul eu henwau oddiwrth Sant Tyssul. Y mae y plwyf yn rhanol yn nghwmwd Gwynionydd, Cantref Syrwen (a elwir yn awr Hwndrwd Troedyraur), ac yn rhanol yn nghwmwd Caerwedros, Cantref y Castell, (a elwir yn bresenol Hwndrwd Moyddyn), yn Sir Aberteifi.

Saif y plwyf yn y rhan ddeheuol o'r Sir, a ffinia a Sir Gaerfyrddin Amgylchir ef o'r tu gogleddol gan blwyf Llandissiliogogo, o'r tu deheuol gan Afon Teifi, yr hon a'i gwahana oddiwrth blwyf Llanfihangel-ar-Arth, gyda'r eithriad yn bresenol o ddwy ddôl ar dir Faerdrefawr, sef Dolau bychain, gwerth ardrethol y rhai yw £25 13s. 4c., ac a berthynant i blwyf Llanfihangel-arArth, er fod eu lleoliad rhwng Faerdre-fawr a'r Teifi. Unwaith bu Afon Teifi yn llifo ger hen blas Faerdre-fawr, , ac yn ymyl Tancoed-mawr, ond erbyn heddyw y mae ei gwely wedi symud, tra y parhâ y dolydd i berthyn i blwyf Llanfihangel. Ffin ddwyreiniol y plwyf yw Llanwenog a Llanllwni, a'r un orllewinol yw plwyfi Troedyraur, Llangunllo, Llanfairorllwyn a Bangor. Rhenir y plwyf i Landyssul Is-Cerdin, yr hwn sydd yn cynnwys treflan Llanfernau ; a Llandyssul Uwch-Cerdin yn cynnwys treflanau Borthin, Capel Dewi, y Faerdre, Glandysulfed a Llanfair. Y mae y ffin rhwng Uwch-Cerdin ac Is-Cerdin fel y canlyn: cychwyna yn Abercerdin, gyda Afon Cerdin hyd y Cefel, a dilyna Afon Cefel hyd dir Berthlwyd, yna trŷ drwy glôs Cwmgyfeile, ac esgyna i fyny hyd Maesymwnci, yno, croesa y ffordd fawr, a pharhâ i lyn Pantiorlech. Canlyna'r dwr o'r llyn hyd