Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10.—Capel Bwlchyfadfa, 806 troedfedd.

11.—Rhiwfelen, ar y Llain ger Bancyplas, 623·1 troedfedd.

Er mwyn cydmariaeth y mae Tyssul Castle yn 203.2 ac Eglwys y plwyf yn 210.8 troedfedd, uchlaw gwastadedd y môr yn Lerpwl.

Rhwng y bryniau y mae nifer luosog o gymoedd, megis Cwmhyar, Cwmgeist, Cwmul, Cwmmerwydd, Cwmeinon, Cwmcadifor, Cwmmarch, Cwmannerch, Cwmdyllest, a Chwmgyfeile. Y prif ddyffrynoedd ydynt, Dyffryn Clettwr—fawr, a Dyffryn Clettwr—fach, Dyffryn Clettwr, Dyffryn Cerdin, a Dyffryn Teifi, tra y mae Dyffryn Llynod yn llai o faintioli.

Pump prif afon y plwyf ydynt, y Teifi, Clettwr Fawr, Clettwr Fach neu Glasne, Clettwr, a Cherdin.

Dechreua'r Teifi i ffinio â'r plwyf yn y man lle yr arllwysa Rhyd Caradog iddi, yna parhâ i wneud hyny, oddigerth ger dolydd y Faerdre, hyd nes yr arllwysa'r Merwydd iddi ar dir Gilfachwen Isaf.

Tardd Clettwr Fawr o fewn ychydig i Mydroilyn ar dir Blaen Clettwr. Iddi rhed

1.—Dulas, unant yn Nhalgarreg.

2.—Glowon a Glowon Fach. (Clawdd sydd rhyngddynt nes yr arllwysant i Glettwr.)

3.—Blwdran, tardd ar dir y Darren.

4.—Ffinant, sef nant y ffin rhwng Llandyssiliogogo a Llandyssul.

5.—Nant Cribor.

6.—Nantyrymenyn.

7.—Clettwr Fach. Tardd hon ar dir Meini Gwynionmawr, plwyf Llanarth. Una a Chlettwr Fawr ym Mhont—Sian. Iddi rhed Nantygwyddau yr hon a dardd ar dir Nantygwyddau. Ar ol uniad Clettwr Fawr a Chlettwr Fach cymer yr afon yr enw Clettwr. Iddi rhed

1. Camnant. Tardd yn ffynhonau ar dir Moelhedogucha a Ffynon Ffilip ar dir y Camnant, arllwysa i Glettwr rhwng cae Gelliaur a thir Camnant.

2.—Mene. Tardd ar dir Cwmmarch ac arllwysa i'r Clettwr ar ddôl Rhydowen Fach.