Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3.—Ceiron. Una â'r Clettwr yn nghae Pandy o dan balas dŷ Alltyrodyn.

4.—Einon. Rhed i Glettwr yn ochr Abereinon.

5.—Gardde. Tardd yn Mandinam ar flaen tir Penpompren, arllwysa i'r Clettwr gyferbyn ag Abergardde.

6. Tegryd. Tardd ar dir Nantegryd, ac arllwysa i'r Clettwr yn nghae Goyallt—Cwmtegryd.

Cerdin. Tardd y brif ffynon ar dir Wstrws, ac una a Theifi ar dir Abercerdin. Iddi y rhed

1.——Y rhan sydd yn tarddu yn ffynhonau mân rhwng Galltmaen a Hafod—wnog ar odreu tir yr Hafod.

2.—Nantycwnstabl yn tarddu ar dir Nantyewnstabl. 3.—Cerdin Fach. Tardd ar dir Blaen Cerdin Fach o fewn i 200 o latheni i ben uchaf y plwyf. Rhed trwy dir Glyniscoed a Phensarn, y Mock a'r Goitre, ac una a Cherdin ar dir y Dinas.

4. Cloigen. Tardd o dan Blaenpantau, ac arllwysa i Gerdin yn y lle a adnabyddid gynt fel Abercloigen.

5.—Annerch. Tardd ar dir Purlip, ac arllwysa i Gerdin yn Aberannerch.

6.—Llynod. Tardd ar dir Dyffrynllynod, ac arllwysa i lýn Melin Tregroes, yn ochr pont Dyffrynllynod.

7.—Cefel. Tardd o dan tai Blaencefel, ac arllwysa i Gerdin yn Abercefel.

8.——Ythan. Tardd ar dir Blaenythan, ac arllwysa i Gerdin yn ymyl Craig Wyon.

Dyma nentydd y plwyf

1.———Merwydd. Tardd ym Mlaenmerwydd ar dir Blaendyffryn, ac arllwysa i Deifi o dan y Ffinant (tỷ D. Richards y Saer). Hon yw y ffin rhwng Bangor—ar—Deifi a Llandyssul.

2.—Cathal yn tarddu ym Mlaencathal, ac yn ffin rhwng Llandyssul a Llanwenog. Arllwysa i Gledlyn mewn lle o'r enw Aber, uchlaw Cwrtnewydd.

3.—Borthin yn tarddu ym Mlaenborthin, ac yn arllwys i Deifi yn Nglanrhyd, Llanfihangel.

4.—Nant Cwm College yn tarddu rhwng Blaenbronfain yn Llanwenog a Brynsegur yn Llandyssul, ac yn arllwys i Deifi ym Mhontlwni.